Arestio dyn am yrru ambiwlans ffug yn Abertawe

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Twitter/ @SWPSwansea
disgrifiad o’r llunCafodd y cerbyd ei orchuddio mewn paent a logos i'w wneud yn debycach i ambiwlans

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar ôl i swyddogion stopio ambiwlans ffug yn Abertawe.

Cafodd y cerbyd ymateb brys ffug, oedd wedi ei orchuddio mewn paent a logos hynod weladwy, ei stopio gan yr heddlu ym Mhenclawdd, Tregŵyr ddydd Llun.

Fe gafodd y gyrrwr ei arestio ar amheuaeth o yrru tra ei fod wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a throseddau eraill.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru nad un o'u cerbydau nhw oedd yn cael ei ddefnyddio, a doedd y gyrrwr ddim yn cael ei gyflogi gan y gwasanaeth.