Cyhoeddi enw dynes fu farw mewn tân sigarét yn Nhowyn

Published
image copyrightGoogle
image captionDigwyddodd y tân yn Ffordd Gors ger y gyffordd â Kinmel Way

Mae dynes fu farw wedi tân tŷ yn Nhowyn, Sir Conwy ym mis Hydref wedi cael ei henwi.

Bu farw Karen Colleen Necek, 65 oed, a dau gi ar ôl tân mewn byngalo yn Ffordd Gors, Towyn.

Cafodd Ms Necek ei darganfod yn gorwedd ar lawr gegin y tŷ a'i chludo i Ysbyty Glan Clwyd, ond bu farw yn ddiweddarach.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru eu bod yn credu mai sigarét oedd yn gyfrifol am ddechrau'r tân.

Wrth agor cwest yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd crwner Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru, John Gittins, fod angen gwneud profion pellach cyn y bod modd cadarnhau achos y farwolaeth.

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan fis Ebrill.

Straeon perthnasol