Radio Wales yn 40: Atgofion Roy

Mae gorsaf genedlaethol Saesneg Cymru, Radio Wales, yn dathlu 40 mlwyddiant ar 13 Tachwedd.

Cyn y dyddiad hwnnw roedd y gwasanaeth Radio 4 Wales, a gyda darlledu Radio 4 yn cael ei ledaenu dros Brydain fe benderfynwyd creu gorsaf genedlaethol i Gymru, blwyddyn wedi i'r BBC sefydlu Radio Cymru.

Rhywun sydd wedi bod yn llais cyfarwydd ar orsaf Radio Wales ers 1980 yw Roy Noble. Cafodd Cymru Fyw air gyda Roy i'w holi am rai o'i atgofion o ddyddiau cynnar yr orsaf.


Roeddwn i'n brifathro ar y pryd ac wedi mynd nôl i'r brifysgol i wneud gradd uwch. Roedd 'na hysbys yn y Western Mail yn chwilio am gyflwynydd i Radio Wales. Doedd e ddim yn glir iawn beth oedden nhw mo'yn, ac o'n i'n meddwl bo' nhw wedi gorfod ei roi e yn y papur ond bod rhywun bownd o fod fewn golwg gyda nhw - yn perthyn i rywun neu yn gysylltiedig 'da rhyw bwyllgor.

Felly nes i ddim rhoi cais i mewn, ond nes i yrru tudalen i mewn gydag ond dau air arno fe - 'Roy Noble'. Nes i yrru'r un dudalen fewn y diwrnod wedyn, a'r diwrnod ar ôl hynny a'r diwrnod ar ôl hynny am gwpl o wythnose.

Pan o'n i dipyn bach mwy dewr nes i dorri llunie mas o ryw gylchgrawn o fois golygus a nes i roi ar y daflen 'dyma fi yn Acapulco' neu 'dyma fi yn y Queen's Garden Party', gan roi disgrifiad o'n hun. Yn y pen draw, wedi tri mis mi gysyllton nhw 'da fi, achos o'n i wedi dechrau rhoi fy rhif ffôn fewn.

Wedi i mi gyrraedd d'wedon nhw er bod cannoedd wedi gwneud cais doedd y swydd heb ei lenwi oherwydd rhyw doriadau yn y BBC, ond gan bo' fi yno fe athon nhw a fi o gwmpas i gael sgwrs 'da ambell i gynhyrchydd. Roedd fy nhroed i mewn cyn belled yn y drws fel bod nhw methu cael e mas.

Image caption Roy yn nyddiau cynnar Radio Wales

Cyn Radio Wales roedd 'Radio 4 Wales' yn darlledu mewn ffordd eithaf difrifol â phynciau a thôn difrifol iawn, gyda darlledwyr fel Vincent Kane yn cyflwyno yn y bore. Ond pan ddechreuodd Radio Wales fe benderfynodd Teleri Bevan, y golygydd rhaglenni cyntaf, newid naws a chyfeiriad yr orsaf.

Dwi'n cofio un o'r pethau cyntaf ar yr orsaf oedd parot roedden nhw'n dweud oedd yn gallu siarad, ond dwedodd e ddim gair, methu gwneud sŵn o gwbl!

Roedd y newid yma yn ormod i rai pobl, ac yn cael ei ystyried yn eithaf controversial, gydag ambell i gwyn yn dod mewn. Roedd hi'n ddewr i barhau gyda'r cyfeiriad mwy ysgafn.

Image caption Roy gyda'i gyd-gyflwynydd, Frank Hennessey

Ddes i at yr orsaf, ac wedi hynny daeth Frank Hennessey, Owen Money a Ray Gravell. O'n i'n gweithio yno unwaith yr wythnos am bum mlynedd yn gwneud rhaglen Letter from Aberdare, ac yn cyfuno hyn gyda fy swydd fel prifathro, ac o'n i'n camu fewn pan oedd eraill yn yr orsaf yn cael gwyliau.

Wnes i weithio yno yn llawn amser o 1985, ond roedd hi wedi cymryd blwyddyn i fi wneud fy meddwl lan a derbyn y cynnig. Roedd gen i swydd dda fel prifathro felly roedd hi'n benderfyniad anodd.

Image caption Roy yng nghwmni Owen Money a Lisa Barsi

Cymeriadau'r orsaf

Roedd Rob (Brydon) yno yn gwneud rhaglen gydag Alan Thompson, ac yn y pen draw fe ddywedodd rhyw olygydd wrtho fod ganddo ddim dyfodol yn yr orsaf. Felly aeth Rob i Lundain a dechrau gweithio yn lleisio hysbysebion ac ati, aeth ymlaen o fanno a sbïwch arno fe nawr.

Dwi dal mewn cysylltiad gyda Rob. Fethes i ei sioe e yn ddiweddar oherwydd mod i'n dost, ond mae e wedi bod yn tecstio ac yn holi am fy iechyd ers hynny. Mae e'n fachan sy'n fodlon rhoi amser i chi.

rob brydon
Image caption Rob Brydon, a ddaeth yn seren wedi'r gyfres deledu 'Marion and Geoff', cyn mynd mlaen i 'Gavin and Stacey' a 'The Trip', ymysg llwyddiannau eraill

Odd Grav (Ray Gravell) ar ben ei hunan, doedd dim dal beth oedd e am ei ddweud. Roedd e'n ffrind da ond gyda phroblem hunanhyder mawr.

Dwi'n cofio darlledu i Radio Wales gyda fe mas yn Nulyn. Athon ni mas am ddiod, ac wedyn yn y gwesty am 3.30 y bore ges i alwad ffôn, "Roy? Grav sy' yma" "Ie Grav, be ti mo'yn?" atebais i. Gofynnodd e "dwed wrtha i, be ti'n meddwl amdanaf i rili?"... roedd ei ysbryd yn isel.

Y bore wedyn nes i dalu, ac fe ddwedodd y bobl yn y dderbynfa bod arna i arian bil ffon. O'n i wedi galw fy ngwraig a Mam, achos o'dd hi'n wael pryd hynny. Daeth y bil i tua 11 Punt Wyddelig (roedd hyn cyn dyddie'r Euro). Gofynnodd Grav i fi "Sta fi ddim punts ar ôl, elli di dalu drosta i a 'nai dalu chdi nôl pan fyddwn ni gartref?" "Wrth gwrs" dwedais i, doedd gen i ddim problem 'da hynny... 165 punt oedd ei fil ffôn o'r noson honno! Roedd e wedi ffonio pawb oedd yn fodlon gwrando arno. Roedd e'n fachan caredig iawn, ac yn gymydog hyfryd.

frank and ray
Image caption Frank Hennessey sydd dal gyda rhaglen boblogaidd ar Radio Wales, a'r cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr Ray Gravell, a fu farw yn 2007

Dwi bellach yn darlledu unwaith yr wythnos, brynhawn dydd Sul. Mae gan Frank (Hennessey) raglen nos Sadwrn, a hefyd mae gan Beverley Humphreys raglen hyfryd ar nos Sadwrn.

Mae Owen Money wedi cael ail wynt wedi cyfnod o salwch hefyd, yn boblogaidd ac mae e yn ddiddanwr hefyd. Ni gyd yn ffrindiau mawr ac mae'n drueni mawr fod Grav wedi mynd.

owen money
Image caption Y cyflwynydd a'r diddanwr poblogaidd o Ferthyr, Owen Money

Cystadleuaeth heddiw

Pan gychwynnon ni doedd dim gymaint o gystadleuaeth â sydd heddiw. Mae dylanwad cyfryngau cymdeithasol yn enfawr heddiw, a faint o bobl ifanc sy'n gwrando ar y radio o gwbl? Maen nhw'n cal popeth maen nhw eisiau o'r ffôn.

Felly mae'n anodd, achos oedd ffigyrau oedd ganddom ni ers talwm yn uchel iawn, ond mae'r amodau heddiw wedi newid.

Yn bersonol, ac mae Frank wedi dweud wrtha i hefyd wrth edrych nôl ar yr 80au i'r 00au cynnar, rwy'n credu gafon ni the best of times; roedd e wir yn gyfnod aur.

Pynciau Cysylltiedig