Apêl wedi 'ymosodiad difrifol' yn Llanbedr Pont Steffan
- Published
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Llanbedr Pont Steffan, ble wnaeth menyw ddioddef anafiadau difrifol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Bont tua 18:00 nos Iau, 8 Tachwedd.
Dywedodd yr heddlu fod y wraig yn parhau'n ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Cafodd pedwar dyn eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys apêl yn yr iaith Bwyleg ar eu cyfrif Twitter yn gofyn am wybodaeth.
Policja Dyfed-Powys prowadzi sledztwo w sprawie napasci w Lampeter, w wyniku ktorej kobieta w powaznym stanie znajduje sie w szpitalu.
— HeddluDPPolice (@DyfedPowys) November 11, 2018
Prosze zglaszac informacje dzwoniac pod numer 101 lub wysylajac e-mail na adres contactcentre@dyfed-powys.police.uk.
⬇️https://t.co/5JmsZ7CpHd pic.twitter.com/H5c29Ce100
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ er mwyn ceisio cael darlun o'r hyn arweiniodd at y digwyddiad, yn ogystal â'r digwyddiad ei hun.
"Rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad," meddai DCI Anthony Evans.
"Does dim ots pa mor ddibwys yr ydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda.
"Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan aelodau o'r gymuned Bwylaidd allai fod yn adnabod yr unigolion sy'n rhan o'r digwyddiad, allai fod â gwybodaeth berthnasol.
"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd nad ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."