Rygbi'r Gynghrair: Cymru 40-8 Iwerddon

Published

Mae tîm rygbi'r gynghrair Cymru wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd 2021 wedi buddugoliaeth gyfforddus dros Iwerddon ar y Cae Ras, Wrecsam.

Mae Cymru wedi gorffen yn ail yn eu grŵp a daeth y fuddugoliaeth ddydd Sul diolch i geisiau gan Chester Butler, Rhodri Lloyd, Gavin Bennion, Ben Evans, Rhys Williams a Josh Ralph.

Scott Grix a George King sgoriodd y ddau gais i'r Iwerddon, fydd nawr yn gorfod mynd drwy'r gemau ail-gyfle am unrhyw obaith o gyrraedd Cwpan y Byd.

Yn ogystal â'r holl geisiau, roedd James Olds ar ben ei gêm ac fe giciodd wyth gôl yn llwyddiannus.