Cwpan FA Lloegr: Weston Super Mare 0-2 Wrecsam

Stuart Beavon Image copyright Getty Images
Image caption Stuart Beavon sgoriodd ail gôl Wrecsam yn y fuddugoliaeth yn erbyn Weston Super Mare

Mae Wrecsam drwodd i ail rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl ennill oddi cartref o 2-0 yn erbyn Weston Super Mare ddydd Sul.

Fe orffennodd yr hanner cyntaf yn ddi-sgor, cyn i Luke Summerfield roi Wrecsam ar y blaen gydag ergyd isel wedi 51 o funudau.

Er gwaethaf ymdrechion Weston Super Mare i ddod 'nôl fewn i'r gêm, fe sgoriodd Wrecsam eu hail o'r diwrnod diolch i ergyd Stuart Beavon wedi 81 munud.

Wedi'r gêm dywedodd rheolwr Wrecsam, Sam Ricketts: "Fe wnaethom ni hi'n anodd i ni ein hunain.

"Ond, y peth pwysicaf yw ein bod ni drwodd i'r rownd nesaf," meddai.

Fe fydd Wrecsam nawr yn ymuno gyda Chasnewydd yn yr het ar gyfer yr ail rownd, wedi iddyn nhw lwyddo i ennill o 2-0 yn erbyn CPD Hedlu'r Met ddydd Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig