Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar yr M4

M4 Image copyright Traffic Wales
Image caption Mae disgwyl i'r ffordd tua'r dwyrain fod ar gau tan brynhawn Sul.

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr M4 fore Sul.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cyffyrdd 35 Pencoed a 36 Sarn tua'r dwyrain toc wedi 07:40.

Daeth cadarnhad gan y Gwasanaeth Ambiwlans yn ddiweddarach bod dynes wedi marw yn y gwrthdrawiad.

Cafodd rhan o'r ffordd ei chau am chwech awr wrth i'r safle gael ei archwilio, ond mae bellach wedi ailagor.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynu'r cyfeirnod 1800428930.

Pynciau Cysylltiedig