Cwpan FA Lloegr: CPD Heddlu'r Met 0-2 Casnewydd

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi sicrhau eu lle yn ail rownd Cwpan FA Lloegr wedi buddugoliaeth oddi-cartref yn erbyn CPD Heddlu'r Met.

Fe gymerodd hi 41 munud i Gasnewydd sgorio'r gôl gyntaf yn erbyn y tîm sy'n chwarae yn seithfed haen o bêl-droed yn Lloegr.

Padraig Amond sgoriodd y gôl gyntaf gyda pheniad pwerus o gic cornel Matthew Dolan.

Fe ddyblodd Casnewydd eu mantais tri munud fewn i'r ail hanner. Jamille Matt gydag ergyd o du fewn y cwrt cosbi i gefn y rhwyd.

Roedd CPD Heddlu'r Met lawr i ddeg dyn wedi 87 munud ar ol i Louis Birch weld ei ail gerdyn melyn.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Casnewydd nawr yn camu ymlaen i'r ail rownd.

Pynciau Cysylltiedig