Y Bencampwriaeth: Bolton 0-1 Abertawe

Published
image copyrightGetty Images

Ennill oedd hanes Abertawe ddydd Sadwrn o oddi cartref yn Bolton.

Wedi dechrau da fe aeth Leroy Fer ac Oli McBurnie yn agos i roi yr Elyrch ar y blaen.

Daeth gôl gyntaf y gêm wedi 15 munud. Ergyd Barrie McKay o du fewn y cwrt cosbi yn hedfan i gornel ucha'r rhwyd i roi Abertawe ar y blaen.

Fe gafodd Bolton dri chyfle cyn yr egwyl i sgorio, gyda Sammy Ameobi yn gorfodi arbediad da gan Erwin Mulder yn y gôl i'r Elyrch.

Ar ddechrau'r ail hanner fe aeth Bolton yn agos eto at sgorio, Clayton Donaldson ac Ameobi unwaith eto yn wastraffus.

Roedd y cyfleoedd yn brin yn yr ail hanner, daeth cyn ymosodwr Caerfyrddin, Christian Doidge yn agos gyda pheniad i Bolton, ond llwyddodd Abertawe i gadw llechen lân ac ennill y gêm.

Pynciau Cysylltiedig