Adfer murlun Ed Povey
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Hwb Caernarfon yn gobeithio adfer murlun Ed Povey

9 Tachwedd 2018 Diweddarwyd 21:59 GMT

Mae grŵp cymunedol Hwb yng Nghaernarfon yn gobeithio darbwyllo arlunydd i'w caniatáu i adfer murlun eiconig.

Cafodd "Helter Skelter" gan Ed Povey ei gomisiynu yn 1979 i gofnodi bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â'r dref.

Er bod trigolion lleol yn cefnogi adfer y murlun, dywed Mr Povey: "Am resymau diwylliannol, dylai'r murlun gael pylu o'r golwg, ynghyd â'r bobl sy'n ei gofio."

Bydd y grŵp a'r arlunydd yn cyfarfod mewn chwe wythnos i drafod y cynllun ymhellach.