A gwaedd y bechgyn lond y gwynt

Ddydd Sul mewn trefi a phentrefi ledled Cymru fe fydd pobol yn ymgasglu i gofio'r rheiny wnaeth farw ar gadfeysydd yn Ewrop a thu hwnt.

Yn fwyaf arbennig byddwn yn cofio'r rheiny wnaeth farw yn y Rhyfel Mawr ar ganmlwyddiant diwedd y gyflafan honno.

Yn yr Almaen ar y llaw arall does 'na ddim un digwyddiad mawr cenedlaethol wedi ei drefnu i nodi'r achlysur. Mae 'na arddangosfa a chyngerdd yn cael eu cynnal yn ogystal â datganiad seneddol. Dyna'r cyfan.

Pam felly?

Mae'n rhy hawdd i ddod i'r casgliad mai'r ffaith bod yr Almaen wedi colli'r rhyfel sy'n gyfrifol am y gwahaniaeth. Mae'n ddyfnach na hynny.

I Almaenwyr y bues i'n siarad â nhw ar ymweliad diweddar mae rhyfel 1914-1918 yn teimlo fel hen hanes - fel mae rhyfeloedd y Crimea a'r Boeriaid, dyweder, yn teimlo i ni.

Digwyddiad hanesyddol yw'r rhyfel mawr yn eu tyb nhw - rhagair gwaedlyd i'r erchyllterau oedd eto i ddod, erchyllterau sy'n cael eu cofio a'u coffáu mewn modd byw iawn.

Mae'n gwestiwn mwy diddorol efallai i ofyn: pam y mae rhyfel does neb byw yn ei chofio yn beth mor fyw i ni ym Mhrydain?

Mae rhan o hynny yn deillio mae'n siŵr o'r ffaith bod cymaint o'r eiconograffi sy'n cael ei defnyddio i goffáu pob rhyfel yn deillio o'r Rhyfel Mawr. Dyna i chi'r pabi, fel enghraifft a'r ffaith mae ar y Sul agosaf i'r cadoediad y cynhelir seremonïau coffau.

Efallai bod cynnyrch llenyddol y rhyfel, yn Gymraeg a Saesneg, hefyd wedi bod yn fodd i gadw'r cof yn fyw.

Ond i Gymry Cymraeg mae 'na rywbeth arall hefyd.

Roedd y ffactorau wnaeth arwain at ddinistr cadarnleoedd Cymraeg y dwyrain, llefydd fel Treorci, Dowlais a Rhymni yn y de neu Ffynnongroyw a Rhos yn y gogledd yn bodoli cyn y Rhyfel ond doedden nhw ddim yn amlwg iawn.

Roedd 'na oddeutu miliwn o siaradwyr Cymraeg wedi'r cyfan a'r gred oedd y byddai "iaith yn fyw tra i ni'n ei siarad hi" gan anwybyddu'r ffaith bod angen ei dysgu i'ch plant hefyd.

Rhywsut, mae'r Rhyfel Mawr yn teimlo fel yr eiliad y dechreuodd y gwareiddiad anghydffurfiol Cymraeg gwympo'n ddarnau. Yn wir mae'n ddigon posib bod agwedd y Capeli tuag at y gyflafan wedi cyfrannu at ei dranc.

Os am brawf o hynny ystyriwch deitlau'r ddwy gyfrol yng nghyfres Hanes Cymdeithasol y Gymraeg sy'n delio â'r cyfnodau cyn ac ar ôl y rhyfel. Iaith Carreg fy Aelwyd yw'r gyntaf. Eu hiaith a gadwant? yw'r ail. Sylwer ar y marc cwestiwn.

Efallai felly yn 2018 ein bod ni'n cofio nid yn unig y rhwyg o golli'r hogiau ond hefyd y rhwyg o golli Cymru.