Dyn wedi ei ladd gan goeden yn disgyn

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Google
disgrifiad o’r llunCafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lanbedr brynhawn Iau

Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan goeden oedd wedi disgyn yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yng Nglyn Artro, Llanbedr am oddeutu 15:15 brynhawn Iau.

Cafodd criw o ddiffoddwyr o Harlech ei anfon i'r safle.

Aeth dau ambiwlans, dau barafeddyg ac ambiwlans awyr yno hefyd, ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Pynciau Cysylltiedig