Cymru'n cofio 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Digwyddiadau Sul y Cofio ar draws Cymru

Cafodd gwasanaethau a digwyddiadau eu cynnal ar hyd a lled Cymru ddydd Sul i gofio union 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn bresennol mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf - un o sawl gwasanaeth tebyg ar draws y DU.

Dywedodd Mr Jones fod y gwasanaethau cofio "mor berthnasol ac ingol ac erioed", ganrif ers diwedd yr hyn oedd yn cael ei alw ar y pryd fel Y Rhyfel Mawr.

Cafodd digwyddiadau eraill eu cynnal ar draws y wlad, gan gynnwys creu darluniau ar bedwar traeth o Gymry gafodd eu lladd yn y rhyfel.

Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Carwyn Jones yn bresennol i gofio yng Nghaerdydd fore Sul

Fel yr arfer, roedd dau funud o dawelwch gafodd ei nodi am 11:00 mewn gwasanaethau coffa ac wrth gofebion rhyfel ar hyd a lled y wlad.

Mae'n dynodi'r union amser ar 11 Tachwedd 1918 pan ddaeth y cadoediad i rym ar y Ffrynt Orllewinol, gan nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yng Nghaerdydd, cynhalwyd digwyddiad Sul y Cofio ger y Gofeb Rhyfel Cenedlaethol yn cynnwys elfen ddyneiddiol i'r gwasanaeth am y tro cyntaf erioed.

"Mae Gwasanaeth Sul y Cofio yn gyfle i ni adlewyrchu ar aberth a wnaeth y dynion a'r menywod er mwyn sicrhau ein rhyddid ni heddiw," meddai Carwyn Jones.

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Y Tywysog Edward, Iarll Wessex, a'i wraig yng Nghadeirlan Llandaf

Yn ddiweddarach ymunodd y Tywysog Edward, Iarll Wessex, a'i wraig â Mr Jones yn y gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf am 15:00.

Un a gymrodd ran yn y gwasanaeth oedd Mari Wyn Jones, sy'n 15 oed. Darllennodd ei cherdd, Yr Enaid Byw, yn y gwasanaeth.

Y llynedd, fe enillodd Mari gystadleuaeth drwy Gymru fel rhan o ymgyrch 'Never Such Innocence' i gael pobl ifanc i ysgrifennu cerddi i goffáu'r rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Image caption Mari Wyn Jones a David Hanson AS - bydd Mari o Ysgol Maes Garmon yn darllen cerdd fuddugol yn y gwasanaeth coffa yn Llandaf

Fe ysgrifennodd hi'r gerdd tra'n ddisgybl ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

"Mae'n fraint i gael darllen y gerdd i gofio'r holl filwyr fu farw a'r holl bobl wnaeth golli'u bywydau," meddai Mari.

Cofio ar draws y wlad

Rhwng 1914 ac 1918 fe wasanaethodd tua 237,000 o ddynion a bechgyn o Gymru - tua 20% o'r boblogaeth wrywaidd - yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda thua 38,000 yn cael eu lladd.

Fel rhan o'r cofio, gwelodd sawl ardal ar draws y DU - o Sir y Fflint ac Ynys Môn i Sir Fynwy a Sir Benfro - oleuo 1,000 o Ffaglau Goleuni i ddynodi diwedd tywyllwch y rhyfel.

Yng Nghadeirlan Llanelwy, fe ganodd y clychau dros heddwch am 12:30, ac fe alwodd Esgob Llanelwy ar eglwysi eraill i wneud yr un peth.

Draw yng Nghaernarfon, cafodd gwasanaeth cyhoeddus ei gynnal yn y castell - sef lleoliad arddangosfa drawiadol o babïau coch gafodd ei hagor yn haf 2016.

Image copyright Dimitrios Legakis
Image caption Daeth nifer i gofio wrth y gofeb ryfel yn Abertawe
Image caption Daeth nifer ynghyd ar sgwâr Llandrindod fore Sul

Yn Sir Gâr, cafodd gwasanaeth ei gynnal gyda'r wawr yng Nghapel Bwlchnewydd ger Talacharn, i ddynodi'r adeg y cafodd y cadoediad ei hun ei arwyddo.

Yng Nghaerfyrddin ei hun, roedd parêd a gwasanaeth cofio yn y bore, a choelcerth yn cael ei chynnau am 19:00 fel symbol o'r heddwch â ddaeth yn sgil tywyllwch y rhyfel.

Image caption Roedd y ffagl hon yn nhref Rhuddlan yn un o nifer i gael eu cynnau ar draws Cymru i nodi diwedd y rhyfel

"Rydym falch iawn i fod yn cymryd rhan yn y digwyddiad hanesyddol rhyngwladol yma i goffau canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr, ac i gydnabod y cyfraniad a'r aberth a wnaeth bechgyn a merched o'n cymuned ni'n hunain," meddai Maer Caerfyrddin, Emlyn Schiavone.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Daeth cannoedd o bobl ynghyd i gofio yn nhref Llandudno

Un o'r digwyddiadau mwyaf trawiadol fore Sul oedd gweld pedwar portread mawr o Gymry a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu llunio ar draethau gan artistiaid tywod.

Roedd y gwaith yn rhan o gomisiwn Cadoediad y cyfarwyddwr Danny Boyle, 'Pages of the Sea', wrth i luniau gael eu hail-greu ar draws 30 o draethau ym Mhrydain ac Iwerddon.

Y traethau a ddewisiwyd yng Nghymru oedd Abertawe, Bae Colwyn, Freshwater West yn Sir Benfro, ac Ynyslas yng Ngheredigion.

Image copyright L.I.S Aerial Photography
Image caption Delwedd o'r Prifardd Hedd Wyn ar draeth Bae Colwyn wrth iddo gael ei olchi gan y llanw

Cafodd y portreadau eu golchi ymaith wrth i'r llanw ddod i mewn, ac roedd y trefnwyr hefyd wedi gofyn i'r cyhoedd greu silwetau o bobl yn y tywod i gofio'r miliynau o fywydau eraill a gollwyd.

Y pedwar a gafodd eu darlunio ar y traethau oedd Hedd Wyn (traeth Bae Colwyn), Richard Davies (Ynyslas), Dorothy Watson (Abertawe), a'r Uwchgapten Charles Alan Smith Morris (Freshwater West).

Image caption Darlun o'r Uwchgapten Charles Alan Smith Morris yn ogystal ag amlinelliad o filwyr ar draeth Freshwater East yn Sir Benfro

"Mae traethau wir yn ofodau cyhoeddus, ble does neb yn teyrnasu oni bai am y llanw," meddai Danny Boyle.

"Dwi'n meddwl mai dyma'r lle perffaith i ddod at ein gilydd a dweud ffarwel a diolch am y tro olaf i'r rheiny a gollodd eu bywydau, neu a welodd eu bywydau'n newid yn llwyr o achos y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Rydw i'n gwahodd pobl i wylio wrth i wynebau'r rheiny a gollwyd gael eu naddu yn y tywod, ac i gymunedau ddod at ei gilydd i gofio'r aberth a wnaed."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol