Y Rhyfel Mawr: Olrhain hanes fy nheulu fy hun

Tom Havard
Image caption Bu farw Tom Havard yn 1920 o effeithiau anadlu nwy gwenwynig yn y rhyfel

Rwy'n cofio fy hen-dad-cu Jim Havard. Roedd e'n ddall ac yn byw yn stafell ffrynt Mamgu.

'Dwi ddim yn cofio ei frawd Tom. Does neb yn cofio Tom.

Buodd e farw yn 1920, flwyddyn a hanner ar ôl dod adre o'r rhyfel. Roedd e'n 22 oed.

Nwy laddodd e - yr un nwy a laddodd cymaint o ddynion ifanc ar faes y gad - ond yn wahanol iddyn nhw, marw 'nôl yma mewn ysbyty wnaeth Tom.

Mae ei enw ar gofeb rhyfel Aberbanc yn Nyffryn Teifi - cofeb sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel Y Milwr Gwyn.

Image caption Mae enw 23 o filwyr a gollwyd yn y Rhyfel Mawr ar gofeb Y Milwr Gwyn

Fel plentyn fe gydiodd y gofeb yn nychymyg Huw Davies.

Mae'n dweud iddi gael ei rhoi gyferbyn â'r ysgol er mwyn i'r plant gael eu hatgoffa'n ddyddiol o aberth y bechgyn lleol.

Colli 23 o'r pentref

Yn ôl Huw fe dalodd y gornel fach hon o Gymru'n ddrud am ei rhan yn y Rhyfel Mawr.

"Doedd 18%, 19% o'r bechgyn ddim wedi dod 'nôl," meddai.

"Ar gyfartaledd, trwy'r DU, oedd canran y rhai oedd yn cael eu lladd rhwng 8% a 9%.

"Mae hwnna, i fi, yn dangos beth oedd aberth bechgyn yr ardal. Roedd e lawer yn fwy na lot o lefydd eraill."

Image caption Dywedodd Huw Davies y bu farw 23 o'r 123 o fechgyn o Aberbanc aeth i ymladd yn y rhyfel

Mae enw hen-ewythr Enfys Davies ar y gofeb hefyd. Bu farw Dan Lewis yn nyddiau olaf y rhyfel.

Roedd clychau eglwys Llanfair Orllwyn yn canu i nodi fod y rhyfel ar ben pan glywodd y teulu na fyddai Dan yn dychwelyd.

Nid gan ei theulu y cafodd Enfys yr hanes, ond yn hytrach mewn hen erthygl bapur newydd.

'Profiadau erchyll'

Doedd teuluoedd ddim yn trafod y rhyfel, meddai.

"O' nhw'n cadw'r peth iddyn nhw eu hunain, mwy na thebyg achos bod y profiadau oedden nhw wedi'u cael mor erchyll.

"O' nhw ddim eisiau rhannu'r profiadau 'ny gyda'r teulu a ddim eisiau ailagor y graith efallai.

"'Sai'n meddwl ein bod yn llawn sylweddoli y profiadau erchyll gaethon nhw."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Enfys Davies bod cymdeithas wedi "dysgu dim" o'r ddau ryfel byd

Mae hynny'n wir am fy nheulu innau hefyd.

Dwi'n gwybod mwy am hanes Tom Havard nag oedd mam-gu er y byddai hi'n gweld ei enw ar y gofeb wrth fynd i'r ysgol ac yn gwybod ei fod yn frawd i'w thad.

Image caption Tom Havard yn ei ddyddiau â chatrawd y Gwarchodlu Cymreig

Ymunodd Tom Havard â chatrawd newydd y Gwarchodlu Cymreig ym mis Ebrill 1915.

Erbyn diwedd Medi y flwyddyn honno roedd ar faes y gad yn Loos - brwydr aeth o chwith i'r cynghreiriaid â Tom yn ei chanol hi.

Wrth iddyn nhw gael eu gwthio 'nôl gan Yr Almaen fe gafodd ei adael ar ôl ar dir neb.

Roedd e, a thri milwr arall a dau Almaenwr roedden nhw wedi eu dal, yn sownd yng nghanol maes y gad.

Doedd dim posib symud am fod yr ymladd yn digwydd o'u cwmpas. Ar ôl tridiau fe lwyddon nhw i ddychwelyd yn saff gyda'r ddau garcharor rhyfel.

Fe gafodd Tom dystysgrif am ei ddewrder.

Image caption Dod o hyd i'r dystysgrif hon oedd yr ysgogiad i ddechrau ymchwilio i hanes Tom Havard

Hon fyddai'r ddihangfa gynta' o nifer iddo.

Mae adroddiad o bapur newydd y Cambrian News ym mis Ebrill 1916 yn sôn amdano'n dianc yn ddianaf ar ôl cael ei gladdu'n fyw mewn ffrwydrad.

Ddechrau Awst 1917 cafodd ei anafu ym mrwydr Cefn Pilkem, a hynny ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 20 oed.

Ym mis Ionawr 1918, tra'i fod gartre am gyfnod, cafodd ei longyfarch ei fod wedi para cyhyd er mai o drwch blewyn oedd hynny.

Ychydig wythnosau cyn diwedd y rhyfel dychwelodd adre'n dioddef o effeithiau anadlu nwy gwenwynig, a bu farw flwyddyn a hanner yn ddiweddarach.

Image caption Bu farw Tom Havard flwyddyn a hanner ar ôl dod adre o'r rhyfel, ag yntau'n 22 oed

Dim ond yn ddiweddar, wrth wneud ymchwil, 'dwi wedi dod i wybod hanes Tom a'i frawd Jim, fy hen-dad-cu, yn y Rhyfel Mawr.

Ond ydy gwybod mwy am yr erchylltra brofodd y bechgyn yma yn gwneud cofio'n haws?

'Dysgu dim byd'

Teimladau cymysg sydd gan Enfys.

Yr hyn sy'n drist, ac rwy'n meddwl am hyn ar yr adeg hyn o'r flwyddyn pob amser - y'n ni ddim wedi dysgu dim byd," meddai.

"Ni'n cofio am yr holl bobl sydd wedi'u lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, a ni'n dal yn rhyfela."

Y Rhyfel Mawr oedd y tro cynta' i'r milwr cyffredin gael ei gofio.

S'neb yn cofio Tom Havard, ond 'dwi'n ei nabod e'n well erbyn hyn.

Bydd rhagor am y stori yma ar raglen Newyddion 9 nos Wener.

Pynciau Cysylltiedig