Cymru v Awstralia: Dewis Josh Adams dros Liam Williams

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionFe ddechreuodd Josh Adams y gemau yn erbyn Yr Alban a Lloegr yn ystod cyfres y Chwe Gwlad eleni

Mae Josh Adams wedi cael ei ddewis yn hytrach na Liam Williams yn nhîm Cymru i wynebu Awstralia yn y gêm brawf ddydd Sadwrn yn Stadiwm Principality Caerdydd.

Adams fydd yn lle Luke Morgan - un o dri newid i'r tîm a gurodd Yr Alban i gipio Cwpan Doddie Weir yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref.

Bydd Dan Biggar yn ymuno â Williams ac Ellis Jenkins ar y fainc wrth i Gareth Anscombe ddal ei afael ar grys rhif 10.

Mae'r prop Tomas Francis yn dychwelyd i'r garfan yn lle Dillon Lewis ac mae Adam Beard yn cymryd lle Cory Hill yn yr ail reng.

Cafodd Anscombe gyfle arall fel maswr er bod Dan Biggar o Northampton ar gael a Rhys Patchell wedi dod trwy brofion yn dilyn cyfergyd.

Fe wnaeth hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde yn rhoi clod arbennig i Adam Beard am ei berfformiad yn erbyn yr Alban, mae'n cadw Cory Hill allan o'r tîm.

Tîm Cymru yn gyflawn :-

Olwyr:

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies;

Blaenwyr:

Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty

Eilyddion:

Elliot Dee, Rob Evans, Dillon Lewis, Cory Hill, Ellis Jenkins, Tomos Williams, Dan Biggar, Liam Williams

Olwyr:

Dane Haylett-Petty; Israel Folau, Samu Kerevi, Kurtley Beale, Sefa Naivalu; Bernard Foley, Will Genia;

Blaenwyr:

Scott Sio, Tolu Latu, Allan Alaalatoa, Izack Rodda, Adam Coleman, Jack Dempsey, Michael Hooper (capt), David Pocock

Eilyddion:

Tatafu Polota-Nau, Sekope Kepu, Taniela Tupou, Rob Simmons, Ned Hanigan, Nick Phipps, Matt To'omua, Jack Maddocks.

image copyrightURC