Tri'n gwadu llofruddiaeth David Gaut yn Nhredegar Newydd

Tref Elliot
Image caption Cafodd corff David Gaut ei ddarganfod yn ei gartref yn Nhre Elliott, Tredegar Newydd ym mis Awst eleni

Mae tri dyn wedi gwadu llofruddio dyn gafodd ei ddarganfod yn farw mewn fflat yn Sir Caerffili.

Cafodd corff David Gaut, 54 oed, ei ddarganfod yn ei gartref yn Nhre Elliott, Tredegar Newydd ym mis Awst.

Ymddangosodd David Osbourne, 51 oed, Darren Evesham, 47 oed ac Ieuan Hartley, 23 oed, o flaen Llys y Goron Caerdydd dydd Iau.

Plediodd y tri'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio Mr Gaut.

Fe blediodd Mr Evesham a Mr Hartley'n ddieuog i geisio newid cwrs cyfiawnder, ac fe blediodd Mr Osbourne yn euog i'r cyhuddiad hwnnw ar delerau cyfyngedig.

Clywodd y llys y byddai'r achos yn erbyn y tri yn cael ei gynnal ar 16 Ionawr, a bydd Mr Osbourne, Mr Evesham a Mr Hartley yn parhau yn y ddalfa.