Beirniadu penodi aelodau di-Gymraeg
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Beirniadu penodi aelodau di-Gymraeg i ddau gorff natur

7 Tachwedd 2018 Diweddarwyd 22:45 GMT

Mae 'na feirniadaeth o Lywodraeth Cymru ar ôl i aelodau di-Gymraeg gael eu penodi i gorff Cyfoeth Naturiol Cymru - er i'r hysbyseb ddweud bod y gallu i siarad yr iaith yn hanfodol.

Ar yr un pryd mae aelod o Barc Cenedlaethol Eryri o'r farn bod gan y Llywodraeth gwestiynau sylfaenol i'w hateb wedi iddi benodi dau aelod di-Gymraeg i'r awdurdod, gan gynnwys un sy'n byw yn Sir Amwythig.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn mewn llythyr at Lywodraeth Cymru pam na benodwyd pobol sydd yn medru'r Gymraeg, ac mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod cwyn bellach wedi cael ei wneud.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr Ysgrifennydd Amaeth, Lesley Griffiths yn nodi'r pryderon a bod yna "dri o bobl bellach sy'n gallu siarad Cymraeg i lefelau gwahanol" ar fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Ms Griffiths, meddai, wedi gofyn i banel "edrych eto ar y rhai hynny wnaeth ymgeisio ac sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl" gyda'r bwriad o benodi rhywun "yn y dyfodol agos".

Ychwangodd bod penodiadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol "yn anelu at gynnig cydbwysedd o ran profiad a sgiliau arbenigol, gan gynnwys gwybodaeth leol a swyddi arwain" a'u bod yn cael eu gwneud "ar sail teilyngdod yn erbyn meini prawf sy'n cynnwys Asesiad yn yr Iaith Gymraeg, y cytunwyd arno gyda'r Awdurdod Parc Cenedlaethol unigol."