Y pentrefi yng Nghymru sy'n ddiolchgar ar Sul y Cofio

Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
disgrifiad o’r llunMae Llanfihangel y Creuddyn yn 'Bentref Diolchgar' dwbl yn sgil osgoi colli milwyr lleol yn y ddau Ryfel Byd

Mae pentref ger Aberystwyth ymhlith yr ardaloedd prin lle na fydd yna wasanaeth Sul y Cofio ddydd Sul nesaf.

Mae Llanfihangel y Creuddyn yn un o dri phentref yng Nghymru sydd â'r statws 'Pentref Diolchgar' am fod pob milwr wedi dychwelyd adref yn ddiogel ar ôl gwasanaethu ar flaen y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Y ddau arall sydd heb gofeb i'r Rhyfel Mawr yw Herbrandston ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro, a Thregolwyn ym Mro Morgannwg.

Mae Llanfihangel y Creuddyn a Herbrandston hefyd yn bentrefi sy'n 'ddwbl ddiolchgar' ar ôl croesawu pob milwr adref yn ddiogel o'r Ail Ryfel Byd yn ogystal.

ffynhonnell y llun, Sheila Rattray
disgrifiad o’r llunOherwydd ei brofiad ar y fferm deuluol, roedd William Davies (chwith) yn gyfrifol am geffylau Cyffiniaid De Cymru

Cafodd tua 40,000 o Gymry eu lladd yn y Rhyfel Mawr.

Un o'r milwyr a ddychwelodd i Lanfihangel y Creuddyn ar ôl gwasanaethu gyda Chyffiniaid De Cymru - yn gofalu am geffylau'r gatrawd - oedd William Davies.

Dywedodd ei or-nith, Sheila Rattray ei fod wedi arfer gweithio gyda cheffylau ar y fferm deuluol, Cynon Fawr, cyn ymuno â'r fyddin.

Yn ôl ei or-nai, Meirion Williams roedd gweithio gyda'r ceffylau'n lleihau'r siawns o orfod "ymladd 'da gwn".

disgrifiad o’r llunMeirion Williams a Sheila Rattray yn cofio'u hen ewythr, William Davies yn Eglwys Llanfihangel y Creuddyn

Fe ddychwelodd aelod o deulu gŵr Mrs Rattray o'r rhyfel yn ddiogel hefyd, ond roedd yna dro chwerwfelys i'w hanes yntau.

"Erbyn iddo ddychwelyd o'r rhyfel o'dd ei fam a - 'wi'n meddwl bo' fi'n iawn yn gwneud - tri brawd a chwaer wedi marw o TB," meddai.

"Dim ond ei dad o'dd byw i groesawu fe adre, a'r tristwch yw mai fe o'dd mewn peryg, yn mynd i'r rhyfel."

'Rhyfeddol'

Mae'r cyn-athro a hanesydd lleol, Gerald Morgan wedi casglu gwybodaeth am 11 o ddynion a ddychwelodd i'r pentref o'r Rhyfel Mawr.

Yn eu plith roedd ficer Llanfihangel y Creuddyn yn Ebrill 1919, a fu'n gaplan y lluoedd arfog yn Mesopotamia (Irac heddiw), Yr Aifft a Phalestina, ac roedd ei fab yn gadet gyda'r fyddin.

"Mae'n bentref bach, ond mae'n rhyfeddol bod pob un o'r dynion wedi dod yn ôl," meddai.

Mae Mr Morgan cofio ymweld â'r pentref am y tro cyntaf a rhyfeddu o fethu â dod o hyd i gofeb ryfel.

"O'dd e fel 'tae neb wedi bod i'r rhyfel," meddai.

"O'n i'n holi o gwmpas a glywes i ryw hanes ond dim nes i'r busnes yma - y Pentrefi Diolchgar - ddod i'r fei ydw i 'di meddwl eto amdano fo.

"Yn achos y lle yma a'th dynion i'r Ail Ryfel Byd a dod adre' yn ddiogel - a mi a'th un i Ryfel Corea a dod adre'n ddiogel."

disgrifiad o’r llunBydd plwyfolion yn mynd i wasanaeth Sul y Cofio un o'r eglwysi lleol eraill, medd y Canon Andrew Loat

Er na fydd yna wasanaeth Sul y Cofio yn y pentref ei hun, fe fydd plwyfolion yn cofio meirw'r rhyfeloedd byd yn un o eglwysi eraill yr ardal, yn ôl y Canon Andrew Loat, sy'n gofalu am nifer o eglwysi yn ardal Llanfihangel y Creuddyn.

Tan yn lled ddiweddar, Herbrandston oedd unig Bentref Diolchgar dwbl Cymru, ond yn 2014 roedd yna wasanaeth yn Eglwys Llanfihangel y Creuddyn yn nodi'r statws i'r pentref hwnnw hefyd.

Bu farw pedwar o ddynion oedd yn dod o'r trydydd Pentref Diolchgar, Tregolwyn ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn yr Ail Ryfel Byd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol