Heddlu'n rhybuddio ffermwyr am dwyll Taliadau Sylfaenol

Published
image copyrightHeddlu Dyfed Powys

Mae rhybudd i ffermwyr y gallen nhw fod yn fwy tebygol o gael eu targedu gan dwyllwyr yr adeg hon o'r flwyddyn.

Daw hynny wrth iddyn nhw baratoi i dderbyn taliadau o'r gronfa o arian llywodraeth sy'n cael ei ddosbarthu i amaethwyr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod "patrymau blynyddol" yn awgrymu bod troseddwyr yn ceisio manteisio o gwmpas mis Rhagfyr er mwyn twyllo ffermwyr a chymryd arian oddi wrthyn nhw.

Yn ôl un elusen sydd yn helpu ffermwyr, mae'n ymddangos fel bod y broblem yn un sy'n dod yn gynyddol gyffredin.

'Dynwared banciau'

Yn ôl yr heddlu mae'n drosedd sy'n cyd-fynd ag adegau pan mae arian o'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn cael ei dalu i ffermwyr.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddosbarthu'r cyllid, a ddaw'n wreiddiol o gronfa Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y llu fod troseddwyr "wedi dynwared banciau ac awdurdodau megis yr heddlu yn y gorffennol" er mwyn ceisio cymryd arian oddi wrth bobl.

Maen nhw wedi rhybuddio pobl y gallen nhw dderbyn "mewnlif o alwadau ac e-byst" ac na ddylen nhw roi unrhyw fanylion personol i bobl sy'n galw.

image captionMae'r twyllwyr yn aml yn ffonio pobl ac esgus eu bod nhw'n cysylltu o'r banc, gan ofyn am fanylion personol

"Byddant naill ai'n cysylltu â'r dioddefwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb ac yn gofyn iddynt drosglwyddo eu harian i leoliadau 'mwy diogel', oherwydd materion diogelwch ffug," meddai swyddogion mewn neges ar Facebook.

"Byddant yn codi braw ar y dioddefwyr ac mae'n bosibl y byddant hyd yn oed yn gwybod rhywfaint amdanynt i'w darbwyllo nad ydynt yn ffug."

Maen nhw wedi pwysleisio na ddylai unrhyw un sy'n cael galwadau neu negeseuon o'r fath "roi gwybodaeth bersonol" i'r sawl sy'n cysylltu.

'Mwy soffistigedig'

Yn ôl Tir Dewi, elusen sydd yn helpu ac yn rhoi cyngor i ffermwyr a gweithwyr amaethyddol, mae twyllwyr yn aml yn targedu pobl yng nghefn gwlad oherwydd bod llawer yn unig neu'n ynysig.

"Mae ffermio yn ddiwydiant unig i lawer," meddai Gareth Davies, sy'n gydlynydd gyda'r elusen.

"Fe allwch chi fynd ddyddiau neu wythnosau heb siarad ag unrhyw un arall, felly pan mae rhywun yn ffonio 'dych chi'n tueddu i siarad gyda nhw. Mae'r bobl sy'n ffonio yn swnio'n ddiffuant.

"Gyda ffermwyr hefyd mae pob math o bethau ar y fferm allai fod yn destun twyll - un esiampl yw metel scrap, ble mae rhywun yn ffonio lan ac yn cynnig mynd ag e i ffwrdd i gael ei brisio, ond wrth gwrs dydych chi byth yn clywed ganddyn nhw eto."

Mae Mr Davies yn credu bod troseddau twyll o'r fath "yn digwydd yn gynyddol aml".

image copyrightTir Dewi
image captionMae Gareth Davies yn gweithio i elusen Tir Dewi, sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i ffermwyr

"Maen nhw hefyd yn mynd yn fwy soffistigedig gyda beth maen nhw'n ei ddefnyddio - maen nhw'n gallu chwilio'r we er enghraifft a chanfod yr holl wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw er mwyn swnio fel eu bod nhw'n dweud y gwir," meddai.

"Maen nhw'n gallu rhoi achos cryf iawn at ei gilydd... ac i ffermwr sydd heb unrhyw un i siarad gyda, does ganddyn nhw neb i droi ato i ddweud 'dwi wedi cael yr alwad yma, beth wyt ti'n ei feddwl?'."

Ceisio cymryd mantais

Yn ogystal ag elusennau fel Tir Dewi, mae Mr Davies yn dweud bod sefydliadau eraill fel yr Asiantaeth Safonau Masnach a grwpiau plismona cefn gwlad hefyd yn medru bod o gymorth.

"Fy nghyngor i ffermwyr yw yn gyntaf i siarad gyda rhywun, ac yn ail, cysylltu gyda grwpiau all roi cyngor arbenigol i chi."

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, John Davies: "Mae bod yn ymwybodol o dwyllwyr yn bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond yr adeg hon fe allai taliadau BPS ddenu sylw twyllwyr yn fwy na'r arfer.

"Mae'r taliadau yma'n hanfodol i fywoliaeth nifer o fusnesau, ac mae'n bwysig bod ffermwyr yn hollol ymwybodol fod troseddwyr allan yna allan geisio cymryd mantais o'u natur dda.

"Mae twyllwyr yn gallu ceisio cael gafael ar gyfrineiriau i gyfrifon banc, neu hyd yn oed eich twyllo i wneud taliadau i mewn i gyfrif banc gwahanol. Dyma'r math o dwyll y mae angen bod yn hynod ofalus ohono."

Straeon perthnasol