Drakeford yn gwrthod honiad fod ganddo 'ddiffyg angerdd'

Mark Drakeford
Image caption Dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn edrych ymlaen at gael ei holi gan y cyfryngau

Mae'r ffefryn ar gyfer ras arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi gwrthod honiad nad oes ganddo'r angerdd angenrheidiol i arwain Cymru.

Daw sylwadau Mark Drakeford ar ôl iddo gyfaddef nad oedd ganddo "unrhyw uchelgais personol i fod yn brif weinidog".

Ond mynnodd yr Ysgrifennydd Cyllid y byddai'n gweithio'n "ddiflino a gyda fy holl egni" pe bai'n llwyddiannus.

Roedd yn ymateb i feirniadaeth gan yr ymgeiswyr eraill yn y ras i olynu Carwyn Jones, ar ôl iddo ddatgan fod yna rannau o rôl y prif weinidog na fyddai'n "edrych ymlaen atynt".

Dywedodd fod y rhain yn cynnwys sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog a chael ei holi gan y cyfryngau.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, sydd yn cystadlu yn erbyn Mr Drakeford: "Os ydych am gael y swydd, mae'n rhaid i chi fod yn ysu am y swydd oherwydd mae yna nifer o heriau o'n blaenau mewn cyfnod digon anodd.

"Dyw pobl Cymru ddim am weld teimlad o amharodrwydd o du ymgeisydd sydd am fod yn brif weinidog."

Un arall sy'n cystadlu am yr arweinyddiaeth yw'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Image copyright Cynulliad Cenedlaethol
Image caption Tri sydd yn y ras i olynu Carwyn Jones - Eluned Morgan, Vaughan Gething a Mark Drakeford

Dywedodd: "Dwi'n meddwl fod angen i unrhyw un fydd yn arwain yn y dyfodol gael yr awch a'r uchelgais yna ar gyfer ein gwlad, a bod wir eisiau'r swydd.

"Dylai hynny gynnwys uchelgais cryf i wasanaethu a thrawsnewid ein gwlad."

Daeth hynny wedi i aelod blaenllaw o dîm ymgyrchu Mr Gething ddweud y byddai sylwadau Mr Drakeford am ei ddiffyg hoffter o sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn fêl ar fysedd y gwrthbleidiau.

Pan wnaeth Mr Drakeford grybwyll sefyll i olynu Carwyn Jones, dywedodd y byddai am arwain Llafur yn etholiadau'r Cynulliad nesaf ac yna camu i'r neilltu ar gyfer "cenhedlaeth newydd".

Wrth ymateb i'r feirniadaeth dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn sefyll i fod yn arweinydd "er mwyn uchelgais personol", ond ei fod yn gwneud hynny "oherwydd fy mod yn credu mai fi yw'r person gorau i wasanaethu'r blaid a'r wlad yn ystod y cyfnod heriol hwn yn ein hanes".

Ychwanegodd y byddai'n gweithio'n "ddiflino er mwyn llwyddo yn fy nghyfrifoldebau a hynny ar ran pobl Cymru".

Straeon perthnasol