Gwrthod teryrnged Roald Dahl 'oherwydd ei wrth-semitiaeth'

Roald Dahl Image copyright PA
Image caption Roald Dahl ydy awdur clasuron fel Charlie And The Chocolate Factory, The BFG, a Matilda

Cafodd y cyfle i ddathlu bywyd yr awdur Roald Dahl drwy gynhyrchu darnau o arian yn ei enw ei wrthod oherwydd pryderon am ei ddaliadau gwrth-semitig, yn ôl adroddiadau papur newydd.

Credir bod swyddogion yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn poeni am "hanes o sylwadau gwrth-semitig" yr awdur o Gaerdydd.

Dywed y papur eu bod nhw wedi gweld cofnodion o gyfarfod y Bathdy yn 2014 a oedd yn dangos eu hamharodrwydd i gynhyrchu darnau o arian coffaol fel teyrnged i Dahl, fu farw yn 1990.

Mae'r Bathdy wedi gwrthod gwneud sylw yn uniongyrchol am yr honiadau, ond wedi cadarnhau eu bod wedi penderfynu dewis themâu eraill wrth fynd ati i greu darn o arian coffaol.

Mae'r Bathdy yn aml yn gwneud darnau o arian a medalau swyddogol i'r Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Roedd cais am ddarn o arian i nodi 100 mlynedd ers geni Dahl yn 2016.

Ond yn ôl y Guardian, roedd is-bwyllgor wedi gwrthod y syniad am fod Dahl yn "gysylltiedig â gwrth-semitiaeth" a'i fod "ddim yn cael ei ystyried fel awdur o'r bri uchaf".

Mae llyfrau Dahl yn ganolog i sawl plentyndod, gyda dros 200m o gopïau wedi eu gwerthu ar draws y byd ar ôl cael eu cyfieithu i 59 iaith.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Bathdy am y cofnodion o'r cyfarfod.

Mae cais am sylw hefyd wedi'i wneud i'r Roald Dahl Story Company, sy'n rheoli hawlfraint yr awdur.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol