Gwobrau Cerddoriaeth Gymreig i Meic Stevens a Boy Azooga
- Cyhoeddwyd
Mae Meic Stevens wedi derbyn gwobr nos Fercher fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'r maes cerddoriaeth yng Nghymru.
Y canwr o Solfach yw'r artist cyntaf i dderbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig fel rhan o seremoni flynyddol y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Ond yn y seremoni, roedd yn feirniadol o'r sîn roc yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn "jôc".
Boy Azooga wnaeth ennill prif wobr y noson am 1,2, Kung Fu - albwm cyntaf y grŵp o Gaerdydd.
Cafodd y seremoni ei chynnal am yr wythfed tro eleni.
Y sîn yn 'jôc'
Yn siarad yn y seremoni, gofynnwyd i Meic Stevens am ei farn ar y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd.
Atebodd: "Pa sîn? 'Sdim sîn roc yng Nghymru, ddim yn yr iaith Gymraeg anyway, mae wedi mynd lawr...
"Dwi ddim isie siarad ambwyti fe achos fydd bobl yn meddwl 'Mae Meic Stevens yn ddyn sur' a dwi ddim yn ddyn sur, ond dwi'n meddwl bod y rock scene Cymraeg yn jôc mawr, mae yn i fi anyway."
Roedd hefyd yn feirniadol nad yw bandiau o Gymru'n cael eu chwarae ddigon ar orsafoedd radio cenedlaethol.
Er hynny, roedd rhai yn amddiffyn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan gynnwys y DJ Rhys Mwyn, a ddywedodd bod y sîn yn "ofnadwy o iach".
Bob parch i Stevens - mae o yn gyfansoddwr o fri - ond fel Lydon, Gallagher, Morrissey , Daltrey - di'o ddim o hyd yn siarad synnwyr. Mae'r 'Sin' yn ofnadwy o iach ar hyn o bryd - mae angen rhoi CDs @LibertinoRecs iddo fo. A beth am CD newydd Jarman ei hen gyfaill @ankstmusik
— Rhys Mwyn (@therealrhysmwyn) November 8, 2018
Nod yr achlysur yw dathlu amrywiaeth cerddoriaeth newydd gan artistiaid a grwpiau o Gymru.
Cafodd yr enillydd ei ddewis gan banel o arbenigwyr o fewn y diwydiant.
Cafodd enw'r albwm buddugol ei gyhoeddi gan y cyflwynydd Huw Stephens - un o sylfaenwyr y gwobrau - yn y seremoni yng ngwesty'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.
Wrth dderbyn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dywedodd sylfaenydd Boy Azooga, Davey Newington fod y gydnabyddiaeth yn "anrhydedd go iawn" o ystyried yr holl artistiaid "rhyfeddol" eraill ar y rhestr fer.
Y 11 albwm arall ar restr fer 2018 oedd:
- Alex Dingley - Beat the Babble
- Astroid Boys - Broke
- Bryde - Like an Island
- Eugene Capper & Rhodri Brooks - Pontvane
- Catrin Finch & Seckou Keita - SOAR
- Gwenno - Le Kov
- Gruff Rhys - Babelsberg
- Manic Street Preachers - Resistance Is Futile
- MELLT - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc
- Seazoo - Trunks
- Toby Hay - The Longest Day
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2018
- 20 Hydref 2017