Enwi tîm Merched Cymru i herio De Affrica ddydd Sadwrn

Published
image copyrightDan Mullan
image captionBydd merch Rowland Phillips, Carys, yn gapten ar Gymru ddydd Sadwrn

Mae hyfforddwr tîm merched rygbi Cymru, Rowland Phillips, wedi enwi'r garfan fydd yn wynebu De Affrica yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Bydd cefnwr y Gweilch, Lauren Smyth, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf dros ei gwlad ar Barc yr Arfau.

Mae tair arall, sydd i eto i ennill cap rhyngwladol, wedi'u henwi ar y fainc - Manon Johnes, Ffion Lewis ac Alicia McComish.

Mae Cymru'n nawfed ar restr detholion y byd, pedwar safle uwchben y Springboks.

Bydd Cymru hefyd yn chwarae Hong Kong ar 16 Tachwedd a Canada ar 24 Tachwedd - y ddwy gêm i'w chwarae ar Barc yr Arfau.

image copyrightUndeb Rygbi Cymru

Straeon perthnasol