Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol yn Sir Benfro

rhos-goch Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A477 ger pentref Rhos-Goch

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro fore Mawrth.

Dywedodd yr heddlu fod y gwrthdrawiad rhwng car Honda Civic a lori wedi digwydd ar yr A477 ger Rhos-Goch am tua 11:45.

Maen nhw bellach wedi cadarnhau bod gyrrwr y car wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cynorthwyo gan swyddogion arbenigol.

Cafodd traffig ei ddargyfeirio ar y prif lwybr rhwng Sanclêr a Doc Penfro yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu wedi apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig