Gwrthdrawiad Sir Ddinbych: Gohirio cwest tri bachgen

John Michael Jones a Leon Rice Image copyright FACEBOOK/NORTH WALES TRUCK GATHERING BIG WEEKEND
Image caption Bu farw John Michael Jones a Leon Rice o'u hanafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae cwest i farwolaeth tri o fechgyn gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych fis diwethaf wedi'i ohirio.

Bu farw John Michael Jones, 18, a Leon Rice, 17, o Ruthun, a Colin Hornsby, 17, o ardal Manceinion, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa a Vauxhall Antara ar ffordd gefn rhwng Dinbych a Threfnant toc cyn 19:30 ar 26 Hydref.

Cafodd y cwest i'w marwolaethau ei agor a'i ohirio ddydd Llun.

Dywedodd y crwner, John Gittins, mai'r gred oedd mai Mr Jones oedd yn gyrru, gyda Mr Rice a Mr Hornsby yn deithwyr yn yr un car.

Cafodd dau arall oedd yn y car gyda nhw eu cludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol.

Cafodd dynes oedd yn teithio yn y car arall hefyd anafiadau difrifol, ac fe gafodd dyn arall fân anafiadau.

Doedd dim diweddariad am eu cyflwr nhw yn y cwest, sydd i ailagor yn y gwanwyn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol