Marwolaeth siop sglodion: Gohirio cwest

Mavis Bran Image copyright Heno
Image caption Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod wedi iddi gael llosgiadau yn y siop sglodion

Mae cwest i farwolaeth dynes fu farw ar ôl cael llosgiadau mewn siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ohirio.

Bu farw Mavis Bran, 69 oed, yn Ysbyty Treforys ar 29 Hydref, yn dilyn digwyddiad yn y siop yn Hermon ar 23 Hydref.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad yn siop sglodion Chipoteria.

Mae dyn 70 oed wedi cael ei arestio dan amheuaeth o ymosod a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y cwest yn Llanelli ei agor a'i ohirio ddydd Llun er mwyn i'r ymchwiliad barhau.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol