Sefydliadau'n rhannu profiadau positif o hybu'r iaith

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae nifer o sefydliadau cyhoeddus yn rhannu profiadau cadarnhaol o drin y Gymraeg mewn seminar yng Nghaerdydd.

Nod y digwyddiad, meddai Comisiynydd y Gymraeg, yw "dangos beth sy'n gweithio, ac ysgogi sefydliadau i ddilyn esiampl ei gilydd ac efelychu prosiectau neu arferion sydd wedi llwyddo gan eraill, fel bod profiadau siaradwyr Cymraeg yn parhau i wella".

Fis Awst wrth gyhoeddi'r adroddiad Mesur o Lwyddiant dywedodd Meri Huws fod cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus yn parhau i wella.

Ar drothwy'r seminar yn y Deml Heddwch ychwanegodd y Comisiynydd: "Rydyn ni'n gwybod bod gan bobl fwy o gyfleoedd nag erioed i ddefnyddio'r iaith. Ond, tu ôl i bob gwasanaeth neu raglen newydd o ansawdd, mae yna waith mawr yn digwydd yn y cefndir.

"Drwy godi cwr y llen ar y gwaith hwn a dysgu am brofiadau'r rhai sydd wedi mynd ati i gynllunio'u defnydd o'r Gymraeg drwy feddwl yn greadigol ac arloesol, rwyf am weld arferion llwyddiannus yn cael eu rhannu a'u trosglwyddo."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Meri Huws wedi bod yn rôl Comisiynydd y Gymraeg ers 2012

Yn ystod y diwrnod bydd amryw o sefydliadau yn rhannu profiadau llwyddiannus wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg ac yn dweud sut maen nhw wedi cynyddu cyfleoedd i staff ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.

Un o'r enghreifftiau a fydd yn cael sylw yw gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor i geisio cael mwy o staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith.

Yn ôl Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu Canolfan Bedwyr: "Roedden ni'n ymwybodol bod staff sy'n gallu siarad Cymraeg ddim bob amser yn gwneud hynny yn y gweithle, ac roedden ni eisiau deall y sefyllfa er mwyn gallu cynnig y gefnogaeth fwyaf effeithiol posib iddynt.

"Roedd gwaith ymchwil cychwynnol gydag un tîm yn dangos mai ychydig dros 25% o'r sgyrsiau rhwng swyddogion oedd yn cael eu cynnal yn Gymraeg. Fel rhan o'r ymchwil fe wnaethom ni ofyn i bump aelod o'r tîm ddefnyddio'r Gymraeg bob amser gyda chydweithwyr oedd yn eu deall.

"Wrth arsylwi effaith y prosiect, casglwyd bod y Gymraeg wedi cael ei defnyddio dros 60% o'r amser. Nawr, bydd y Brifysgol yn datblygu'r rhaglen ARFer gyda'r nod o lunio pecyn y gall sefydliadau eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd nhw hefyd."

Canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn awdurdodau lleol Cymru:

Disgrifiad o’r llun,
Ffynhonell: StatsCymru

Achos arall fydd yn cael ei rannu yw gwaith Cyngor Bro Morgannwg i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg.

Mae'r awdurdod wedi hyfforddi staff y ganolfan alwadau sy'n siarad Cymraeg i ddarparu mwy o wasanaethau drwy gyfrwng yr iaith.

Dywedodd Tony Curliss, Rheolwr Gweithredol Cysylltiadau Cwsmeriaid y cyngor: "Yr allwedd i'r llwyddiant yw gwneud y defnydd mwyaf effeithlon posibl o'n hadnoddau staff cyfyngedig.

"Rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg union yr un fath, a dyw gwneud pethau yn y Gymraeg ddim anoddach na gwneud pethau yn y Saesneg."

Ychwanegodd: "Rydym yn cael yr un lefel o foddhad gan ein cwsmeriaid i ymholiadau Cymraeg ag i ymholiadau Saesneg."