Atgofion Ifan Gruffydd o'r Rhyfel Mawr

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ifan Gruffydd, y Gŵr o Baradwys, fu yn Armentières i hel atgofion efo rhaglen Heddiw, 1968

Roedd Ifan Gruffydd, y Gŵr o Baradwys, yn adnabyddus yn ei ddydd fel perfformiwr, dramodydd a storïwr.

Teithiai Gymru benbaladr i adrodd hanesion ei fagwraeth a'i fywyd gwledig ym mhlwyf Llangristiolus, Ynys Môn, a groniclwyd mewn dau hunangofiant, Gŵr o Baradwys (1963) a Tân yn y Siambar (1966).

Ynddynt, mae'n portreadu bywyd a diwylliant gwerinol yr ardal gyda ffraethineb a thynerwch. Rhai o straeon mwyaf cofiadwy'r hunangofiannau yw'r rhai am ei gyfnod yn y Rhyfel Mawr.

Gadael adref i ymladd

Yn nawn ei ddweud ceir gwir ymdeimlad ohono yn llanc ifanc diniwed yn ymuno â'r fyddin, ac yn gadael cartref am y tro cyntaf gyda phrin air o Saesneg.

Ym mis Tachwedd 1968, hanner can mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, aeth Ifan gyda Mary Middleton o raglen Heddiw BBC Cymru yn ôl i Armentières, yr ardal y bu o'n brwydro ynddi.

Llygad dyst

Yn ei ddull unigryw disgrifia ei gyfnod yno ar faes y gad ac yn ffosydd - am y gwaith, ei gyfeillion a'r colledion a brofodd.

Dyfod yn ôl i'w gartref yn Rhos-y-Ffordd, Llangristiolus, wnaeth Ifan wedi iddo gael ei glwyfo yn y rhyfel. Cafodd 'blighty' yn ei goes chwith, sef anaf ddigon drwg i gael ei anfon adref.

Treuliodd weddill ei oes yn y plwyf a oedd mor annwyl iddo. Cafodd waith fel gwas fferm ac yna fel gofalwr yn y Cyngor Sir, cyn ymroi i ysgrifennu.

Pynciau Cysylltiedig