Betsan Powys: Pam wnes i adael gyrfa a newid byd

Published

Mae'n rhywbeth sydd ar feddwl nifer fawr o rieni sy'n gweithio; i gael y cydbwysedd yn iawn rhwng gwaith a theulu a threulio digon o amser gyda'u plant.

Mae Betsan Powys, a oedd yn ohebydd gwleidyddol blaenllaw yn y BBC am nifer o flynyddoedd cyn cael ei phenodi'n olygydd Radio Cymru, yn dweud mai sgwrs gyda chydweithiwr wnaeth arwain at ei phenderfyniad "fel bollt" i adael gyrfa lwyddiannus i dreulio mwy o amser gyda'i theulu.

Sylweddolodd nad oedd modd iddi "ei chael hi bob ffordd" meddai.

Yma, mewn llythyr agored i'w phlant, sydd yn eu harddegau, mae'n trafod y penderfyniad mawr i newid byd:

image copyrightBetsan Powys
image captionDywed Betsan Powys fod meddwl am y diwrnod anochel pan fyddai'r plant - Madog a Manon - yn gadael cartref wedi bod yn sbardun iddi adael ei swydd.

Annwyl blant,

Wel 'te chi'ch dau, dyma ni - y bennod newydd wedi dechrau. Dwi wrthi'n raddol bach yn dod i synhwyro, wedyn ddechrau deall, ble dwi ar fy ennill, be' dwi'n golli - a sut mae newid byd i un aelod o'r teulu yn newid byd i ni gyd. Chithe r'un peth dwi'n siŵr.

Un o'r cwestiynau cyntaf ofynnwyd i fi pan sonies i mod i'n rhoi'r gorau i ngwaith i gael mwy o gwmni Dad a chi'ch dau, oedd p'run ai on i wedi gofyn i "my teenage son and daughter" oeddech chi ffansi treulio mwy o amser gyda fi? Eitha reit! Ond ro'n ni wedi trafod yn doedden, a'ch ymateb chi'n selio'r fargen.

Do'n i ddim wedi hir ystyried rhoi'r gorau iddi. Fe ddaeth fel bollt. Sgwrs ges i, lle soniodd cydweithiwr bod y diwrnod pan yw'ch plant yn awchu i adael cartre yn ddi-syfl - 'immovable'. Y gair 'na drawodd fi mor galed.

Os ydy'r diwrnod hwnnw yn ddi-syfl, a ti Manon fydd y cyntaf i bacio dy fag, yna'n syml iawn roedd yn rhaid i fi symud. Fi oedd pia'r sylweddoliad nad oes modd i fi ei chael hi bob ffordd, a fi oedd pia'r penderfyniad i wneud rhywbeth am y peth.

Mae'n rhyfedd sut mae un gair yn gallu rhoi tro ar fyd. Ti'n cofio byw yn Battersea Manon? Dad adre yn 'magu'r babi', yn gwylio fideos 'Bobi a Beti' er mwyn dysgu Cymraeg gyda ti, yn trwsio'r drol fach bren a threulio oriau yn cerdded gyda ti ar hyd yr afon Tafwys nes bod dim angen y drol, a dy gerddediad di'n gadarn? Chofi di ddim mynd am dro i'r parc gyda Mamgu Llundain, a gweld wiwer, a holi "Wossa Mamgu?" yn dy acen De Llundain drom. Y 'wossa' yna wnaeth fi'n benderfynol o ddarbwyllo Dad i ddod i fyw yng Nghymru i dy fagu di a Madog.

Wel, 'immovable' nath hi'r tro hwn.

Hynny ac awydd i wneud rhestr hir o bethe sydd wedi bod yn aros eu tro'n rhy hir. Chi 'di clywed digon amdanyn nhw, felly gyda'n gilydd nawr: cerdded llwybr yr arfordir fesul pwt, bob cyfle posib; joio coginio a phobi ac am y tro cyntaf yn 'y mywyd, gneud cacen Dolig. Cadw'n heini, dechre rhedeg y park run ar fore Sadwrn, eistedd ar y soffa fach yn y ffenest i ddarllen papur, bwcio tocynnau rhad ganol-wythnos-plant-yn-yr-ysgol i fynd i weld pethe, 'neud pethe, peidio osgoi pethe.

Yfed mwy o goffi neu glasied o jin gyda phobl mae gen i fwy dwi ishe'i ddweud wrthyn nhw, mwy dwi ishe'i glywed ganddyn nhw, sortio'r tŷ - ac mae'r rhestr yn siŵr o dyfu. Dwi 'di cerdded o'r drws ffrynt i Drwyn y Rhws hyd yn hyn, wedi cofio e-bostio ffrind i holi am ei rysáit enwog am gacen Dolig, wedi paentio'r bathrwm, paentio stafell wely - megis dechrau.

image copyrightBetsan Powys

Ond gawn ni un peth yn glir? Un o f'atgofion cynharaf i yw eistedd yng nghefn y dosbarth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Senghenydd, a Mam wrth y bwrdd du. O'n i'n ymfalchïo ei bod hi'n athrawes ffantastig ac yn dwlu lawn cymaint mod i, oedd ddim eto'n ddigon hen i fynd i'r ysgol, yn cael bod yno gyda hi.

Mae gen i frith gof o Mark a Patrick yr efeilliaid, Ann efo'i gwallt gole, Mara efo'i gwallt tywyll ac o'n i mor lwcus o gael eistedd gyda nhw'n gwrando, pensil yn fy llaw, wedi'n siarsio i fod yn dawel. Ar y pryd, roedd y peth yn antur. Nawr, dwi'n sylweddoli mod i yno am nad oedd dewis gan Mam os oedd hi am weithio. Os nad oedd Phoebe o'r capel ar gael i warchod, roedd rhaid fy hwpo i i'r car a mynd â fi gyda hi. Antur dwi'n ei gofio hyd heddiw.

Felly peidiwch meddwl mod i'n cywilyddio mod i wedi mynd yn ôl i ngwaith yn fuan iawn ar ôl i chi gael eich geni. Lwcus fues i, bod Dad yn fodlon bod adre, iddo fe fynd yn ôl i'r coleg i astudio cerflunio er mwyn troi ei law at rwbeth oedd yn ddiléit ond er mwyn bod ar gael i chi'ch dau hefyd. Fe wnes i'n fawr o bob cyfle ges i, a dwlu ar bopeth ddaeth. Pan o'n i'n Olygydd Gwleidyddol, fe ddaeth Dad â ti Madog, yn chwech wythnos oed, i'r stafell fach ar bwys y stiwdio i gael dy fwydo yn ystod rhaglen canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol yn 2005. Antur!

Dwi'n cofio sibrwd yn dy glust di Manon, rhwng cwsg ag effro yn dy wely, mod i'n sylweddoli i fi golli noson rieni, neu gyrraedd yn hwyr i gyngerdd ysgol - ond nad o'n i am i ti feddwl am eiliad bod gwaith yn faich, yn niwsans. Ro'n i am i ti wybod bod gwaith a gyrfa a chyflog - i fi - yn bethau angenrheidiol, i'w trysori ac nad anghofia i fyth glytwaith cyfoethog y tri degawd d'wetha 'ma.

Ydych chi wedi bod ar eich colled? Dwi'n amau hynny'n fawr. Chi 'di elwa ar gyflog deche, ar fam fodlon, a falle i chi ffeindio allwedd dan y mat weithiau a swper ffwrdd-â-hi yn aml ond nid fi yw'r unig fam mewn swydd all ddweud i'r plant hefyd gael pob gofal.

Ond nawr, FI sy'n teimlo'r angen i dreulio amser gyda chi. FI sydd - yn ddwfn rwle'n fy stumog - yn gwybod na fysen i wedi maddau i fi fy hun pe na bawn i wedi ildio, wedi gwyro oddi ar lwybr gwaith a gyrfa, er mwyn bod yno i chi'ch dau. Dwi am fod yn sbwnj, yn socian bob sgwrs, bob osgo sy'n dweud rwbeth wrtha i am y diwrnod, y prawf, y wers aeth heibio, yn cofnodi, a gwrando. Fe fyddwch wedi mynd cyn i ni droi rownd - cyn i fi gyrraedd hanner ffordd rownd yr arfordir dwi'n ame!

Wna i ddim difaru chwaith. Dwi 'di gwrando ar 'y ngreddf erioed, a dyna dwi'n ei wneud nawr, felly'n gam neu'n gymwys, fydd dim diben difaru.

Barod amdani?

Mam

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig