Achos Pentywyn: Cyhuddo dyn fu ar ffo o lofruddiaeth

Steve Baxter Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Mae Wayne David Baxter Tidy, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Steve Baxter, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo Wayne David Baxter Tidy, sy'n cael ei adnabod fel Steve Baxter, o lofruddio Simon Clark.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen ynadon yn Llanelli fore Mercher.

Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 28 Medi.

Roedd yr heddlu yn chwilio am Mr Baxter am wythnosau cyn iddo gael ei ddal a'i arestio ar 27 Hydref yn ardal Pentywyn.

Image copyright Heddlu Dyfed-Powys
Image caption Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 28 Medi

Mae pedwar person arall hefyd wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â'r llofruddiaeth.

Mae Jeffrey Stephen Ward, 40 oed o Bentywyn, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae tri arall wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr - Linda Mary Rowley, 52 o Bentywyn, Kirston Macklin, 52 o Gasnewydd, a Julie Louise Harris, 46 o Donypandy.

Straeon perthnasol