Charles de Gaulle, Cymru a'r Gymraeg

Charles de Gaulle yn Sir Ddinbych yn 1940 Image copyright Creative Commons
Image caption Charles de Gaulle yn Sir Ddinbych yn 1940

Mae Charles de Gaulle yn cael ei weld fel un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol erioed yn hanes Ffrainc, ond be' oedd o'n ei wneud yng nghefn gwlad Sir Ddinbych?

Wyddoch chi hefyd fod de Gaulle yn gallu siarad Cymraeg? Ond mwy am hynny yn nes ymlaen.

Mae'r diweddar Arlywydd yn cael ei gofio am arwain ei genedl i ryddid yn ystod yr Ail Ryfel Byd a sefydlu cyfansoddiad newydd y wlad sy'n dal i fodoli hyd heddiw.

Pan arwyddodd Marshal Pétain, Prif Weinidog Ffrainc, gadoediad gyda'r Almaenwyr ym mis Mehefin 1940, mi wnaeth de Gaulle, a oedd yn weinidog yn y llywodraeth, ffoi i Lundain.

Image caption Charles de Gaulle yn annerch ei gyd-wladwyr tra'n alltud yn Mhrydain

Croesi'r ffin

Tra roedd o yno fe ysgogodd o ei gyd-wladwyr i barhau i ymladd yr Almaenwyr. Yn ystod y cyfnod yma y daeth o i ogledd Cymru.

Roedd ei deulu wedi dod i Brydain hefyd ac roedden nhw'n aros yn Gadlas Hall yn Dudleston Heath, Sir Amwythig tua dwy filltir o'r ffin.

Mae'n debyg mai yn ystod ymweliad gyda'i deulu y teithiodd o i Sir Ddinbych i ymweld â chriw o sgowtiaid o Ffrainc oedd yn aros yng Ngwersyll Cymdeithas y Sgowtiaid ym Mrynbach ar gyrion Saron, pum milltir o Ddinbych.

Ar sgowt

Mae sgowtiaid fu'n aros yno mewn cyfnod mwy diweddar yn cofio gweld lluniau o de Gaulle ar furiau un o'r cytiau yno.

Cafodd y llun ar dop yr erthygl ei dynnu yn ystod yr ymweliad.

Ar ei anterth roedd y safle 200 erw yn un o brif wersylloedd y mudiad.

Ond wrth i'r oes fodern ddatblygu daeth y gwersyll yn llai poblogaidd. Criw o sgowtiaid o Sir Caer oedd yr olaf i gynnal gwersyll wythnos yno'n 1987.


Hefyd o ddiddordeb


de Gaulle a'r Gymraeg

A beth am ei allu i siarad Cymraeg meddech chi?

Do fe wnaethon ni gyfeirio ar y dechrau bod Charles de Gaulle yn medru cyfathrebu yn iaith y nefoedd.

Oedd, ond ewythr yr Arlywydd - a oedd yn rhannu'r un enw - oedd yr ieithmon yn y teulu.

Image copyright Creative Commons
Image caption Charles de Gaulle... y bardd

Bardd oedd y Charles de Gaulle hynaf ac roedd yntau yn arloeswr gwleidyddol.

Roedd ei iechyd yn fregus a dan ddylanwad barddoniaeth Lydaweg fe ddysgodd ieithoedd Celtaidd gan gynnwys y Gymraeg.

Tad yr Ŵyl Ban-Geltaidd?

Ei freuddwyd fawr oedd sefydlu gwyliau pan-Geltaidd er mwyn gwarchod y diwylliannau hynafol.

Roedd o hefyd yn arddel hunan-lywodraeth i Lydaw. Yn groes i ddymuniad llywodraeth Ffrainc, fe aeth ati i drefnu cynhadledd Geltaidd yn St Brieuc yn 1867 er mwyn trafod ei weledigaeth ymhellach.

Yn eironig, doedd de Gaulle ei hun ddim yn gallu bod yno gan ei fod yn wael.

Mae ffrwyth ei weledigaeth i'w gweld ar ffurf gwyliau Celtaidd fel Gŵyl Geltaidd Lorient a'r Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ble bydd enillwyr Cân i Gymru yn perfformio.

Image caption Mae 'na gystadlu brŵd yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd bob blwyddyn