Cyllideb: Llymder 'ar ddod i ben'

hammond

Roedd peth dyfalu y gallai Llywodraeth Cymru gael mwy o arian o ganlyniad i gynlluniau gwariant y canghellor Phillip Hammond yn ei gyllideb brynhawn Llun.

Cododd Mr Hammond ar ei draed am 15:32, ac yn syth fe gyhoeddodd y byddai hon yn "gyllideb i bobl gyffredin sy'n asgwrn cefn i'r wlad".

I'r perwyl hwn, dywedodd y byddai'r trothwy cyflog cyn talu treth incwm yn codi i £12,500 erbyn Ebrill 2019, gyda'r trothwy ar gyfer y gyfadd uwch o dreth incwm yn codi i £50,000 ar yr un pryd.

Mae hynny flwyddyn yn gynt na'r addewid a gafwyd ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2017.

Ei ddatganiad nesaf oedd i ddweud bod y cyfnod llymder ar ddod i ben - rhywbeth oedd wedi ei grybwyll ganddo dros y penwythnos.

Dywedodd fod y DU wedi paratoi'n ariannol cyn Brexit. Roedd eisoes wedi clustnodi £2.2bn i adrannau'r llywodraeth i baratoi am Brexit, ac yn natganiad yr hydref y llynedd fe glustnododd £1.5bn yn ychwanegol tuag at hynny.

Ddydd Llun fe gododd yr ail swm yna i £2bn, ac fe fydd pob adran yn cael gwybod dros yr wythnosau nesaf pwy fydd yn elwa fwyaf.

Image copyright Getty Images

Yn ôl y Canghellor, mae diffyg y wlad - y gwahaniaeth rhwng faint o arian sy'n dod i mewn i'r trysorlys a faint sy'n cael ei wario - wedi disgyn yn sylweddol ers 2010.

Dros yr un cyfnod mae dyled y wlad wedi cynyddu i'w lefel uchaf erioed, ond ddydd Llun dywedodd Mr Hammond ei fod yn disgwyl i'r ddyled leihau hefyd.

Roedd y ddyled ar ei huchaf yn 2016-17 - sef 85.2% o GDP y wlad - ac y bydd yn disgyn bob blwyddyn tan 2023-24 pan y bydd yn 74.1%.

Daeth cyhoeddiadau am fuddsoddiadau mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol - cyfanswm o £650m - ond gan fod y meysydd yna yn rhai sydd wedi'u datganoli, fe ddylai Llywodraeth Cymru dderbyn arian cyfatebol o dan fformiwla cyllido Barnett.

Fe ddaeth mwy o gyhoeddiadau am gyllid i amryw feysydd - £10m i ambiwlans awyr Lloegr, £400m i ysgolion Lloegr i "brynu'r pethau bychain maen nhw eu hangen", £420m i drwsio tyllau mewn ffyrdd yn Lloegr.

Er bod peth amheuaeth a yw'r cyhoeddiadau yma yn arian 'newydd', fe fyddai cadarnhâd o hynny unwaith eto yn golygu arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Os mai dyna fydd yn digwydd, Llywodraeth Cymru fyddai'n penderfynu sut i wario'r arian - does dim rheidrwydd ei wario yn yr un meysydd ag yn Lloegr.

Arian uniongyrchol i Gymru

Roedd yr arian ychwanegol i Gymru hyd yma yn yr araith yn anuniongyrchol drwy Fformiwla Barnett, ond fe ddaeth cyhoeddiadau a fuddsoddiadau uniongyrchol i Gymru hefyd.

Daeth y cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig y byddai £120m ar gael ar gyfer Cytundeb Twf Gogledd Cymru, ac fe ddywedodd Mr Hammond hefyd fod Llywodraeth y DU wedi bod yn trafod gyda phartneriaid ar Gytundeb Twf i Ganolbarth Cymru.

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth y DU yn cefnogi darparu ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru drwy adolygu y fyddai'n fodlon cymeradwyo pwerau benthyg o hyd at £300m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru er mwyn talu am y cynllun dadleuol.

Y cyfanswm o arian ychwanegol fydd ar gael i Lywodraeth Cymru fel grant canolog fydd £550m dros y tair blynedd nesaf.

Eisteddodd Phillip Hammond ar ôl siarad am awr a 10 munud, ond fel ymhob blwyddyn arall, fe fydd llawer mwy o fanylion y gyllideb yn dod i'r amlwg ar ôl i'r araith ddod i ben.

Dadansoddiad Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr

Roedd yna dinc o optimistiaeth yng nghyllideb y Canghellor heddiw, er waethaf ansicrwydd ynglŷn â Brexit.

Ar ôl blynyddoedd o doriadau, roedd eisiau gyrru neges bod cynni ariannol yn dod i ben.

Felly roedd 'na fwy o arian ar gyfer ysgolion, iechyd, ffyrdd a gofal cymdeithasol yn Lloegr, a hynny yn ei dro yn golygu mwy o arian i Gymru hefyd.

Dros y tair blynedd nesaf fe fydd llywodraeth Cymru yn derbyn £550m yn ychwanegol i wario ar eu blaenoriaethau nhw.

Ond mae Llywodraeth y DU yn amlwg am eu gweld nhw'n bwrw ymlaen gyda gwelliannau i'r M4 felly maen nhw'n ystyried cynyddu'r swm y gallan nhw fenthyg... er wrth gwrs penderfyniad Llywodraeth Cymru fyddai sut i'w wario yn y pen draw.

Y pennawd mawr arall i Gymru oedd y £120m ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae hwnnw wedi cael ei groesawu gan Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn.

Ond briwsion gafodd eu cynnig yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price tra bod yr AS Llafur, Nia Griffith yn dadlau nad yw'r arian ychwanegol heddiw yn gwneud yn iawn am y toriadau sydd eisoes wedi'i gwneud dros y blynyddoedd diwethaf.

Ymateb y pleidiau yng Nghymru

Wrth ymateb i'r Gyllideb, dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford ar ran llafur Cymru nad oedd unrhyw dystiolaeth yn yr araith fod llymder drosodd.

"Ychydig wythnosau yn ôl, honnodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig bod polisi cyni diffygiol y llywodraeth Geidwadol hon ar ben. Mae'r dystiolaeth yn y Gyllideb hon yn dangos nad yw hynny'n wir.

"Ychydig iawn mae'r Gyllideb yn ei gynnig i Gymru fel arall - heblaw cadarnhad o'r swm canlyniadol ar gyfer cyllid 70 mlwyddiant y GIG, yr oeddem yn ei ddisgwyl yn barod, ynghyd ag ychydig friwsion eraill o'r bwrdd.

"Ar ei gorau, nid yw'r gyllideb hon yn galluogi inni wneud dim mwy na sefyll yn ein hunfan wrth aros am ganlyniadau'r negodiadau Brexit. Mae'n destun siom fawr o safbwynt Cymru."

Image caption Dywedodd Adam Price fod hon yn "gyllideb ffantasi"

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd yr arweinydd Adam Price: "Roedd hon yn gyllideb ffantasi yn seiliedig ar ffigyrau dychmygol.

"Mae twf yn parhau yn is na 2% am y dyfodol rhagweladwy, a gyda chwmwl Brexit drosom fe allai'r ffigyrau yma o hyd fod yn optimistaidd iawn.

"Ar ôl gwegian o frig y tabl twf i'r gwaelod, mae economi'r DU yn simsanu ar ymyl y dibyn degawd wedi'r dirwasgiad mawr.

"Eilbeth yw Cymru i San Steffan, gyda chynlluniau isadeiledd mawr i'n cenedl yn cael eu dileu er mwyn bwydo economi de ddwyrain Lloegr.

"Yr unig le mae llymder yn debyg o ddod i ben yw yn rhethreg gwleidyddion San Steffan. Bydd pobl Cymru yn teimlo'i effeithiau am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae'r cyhoeddiad o £120m i Gynllun Twf Gogledd Cymru a thrafodaethau am un i'r Canolbarth i'w groesawu, ond dyw e ddim hanner digon.

"Mae angen arwyddo'r cytundebau yma, nid dim ond eu haddo.

"Ond mae'r cyhoeddiadau am £550m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros dair blynedd ac arian ychwanegol tuag at Gredyd Cynhwysol ymhell, bell o'r hyn sydd angen.

"Rhaid i Lywodraeth y DU ddileu'r newidiadau i Gredyd Cynhwysol o 2015 a rhoi cynnydd ystyrlon i gyllid Llywodraeth Cymru.

"Roedden ni angen cyllideb oedd yn rhoi trethi tecach a gwell gwasanaethau cyhoeddus i bobl ynghyd â llais ar gytundeb terfynol Brexit. Heddiw, ni chafon ni ddim o hyn."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol