'Gwyrth' wedi genedigaeth merch fach 1 pwys 1 owns

Hallie gyda Robyn a James Image copyright Llun teulu
Image caption Dim ond 500g oedd Hallie'n pwyso pan gafodd ei geni

Mae mam i ferch fach gafodd ei geni'n pwyso 500g unig yn dweud ei bod hi'n "wyrth" ei bod yn gwneud mor dda.

Cafodd Hallie ei geni yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau yn pwyso dim ond 1lb 1oz, a hynny wedi 28 wythnos o feichiogrwydd.

Dywedwyd wrth ei rhieni Robyn Bryant a James Dury y dylen nhw baratoi ar gyfer y gwaethaf.

Roedd doctoriaid yn credu y gallai'r ferch fach fod â chyflwr geneteg, a hynny am nad oedd ei breichiau a'i choesau yn datblygu fel y dylen nhw.

'Maint fy ffôn'

Fe wnaeth profion ddangos trafferthion pellach, ac fe gafodd Robyn, 23, a James, 27, wybod y gallai Hallie farw unrhyw bryd o'r 20fed wythnos ymlaen.

Cafodd Hallie ei geni yn dilyn toriad Cesaraidd brys, a hynny bron i dri mis cyn y dyddiad geni disgwyliedig ar 8 Ionawr.

"Pan ddaeth Hallie allen fe sylweddolon nhw nad oedd y placenta wedi bod yn gweithio fel y dylai," meddai ei mam Robyn.

Image copyright Llun teulu

"Roedd hi wedi bod yn brin o ocsigen, dyna pam roedd hi mor fach.

"Doedd neb yn disgwyl iddi fod yn anadlu felly pan ddaeth hi allan fe wnaeth hi brofi pawb yn anghywir, roedd hi'n sgrechian."

Ychwanegodd: "Mae hi mor fach - tua maint fy ffôn i. Mae hi'n cael rhywfaint o ocsigen ond mae'n anadlu ar ei phen ei hun mwy neu lai. Mae'n wyrth."

Image copyright Llun teulu
Image caption Dywedodd Robyn bod ei merch Hallie "tua maint fy ffôn"

Mae'r teulu yn disgwyl y byddan nhw'n treulio eu Nadolig cyntaf yn yr ysbyty.

Ond dywedodd Ms Bryant: "Fe allai wedi bod yn llawer gwaeth ac mae'n bosib na fyddai hi wedi bod yma. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol