Llofruddiaeth Pentywyn: Heddlu yn arestio dyn fu ar ffo

Steve Baxter Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Mae Steve Baxter wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod wedi dod o hyd i ddyn sy'n cael ei amau o lofruddiaeth.

Roedd yr heddlu yn chwilio am Steve Baxter mewn cysylltiad â marwolaeth Simon Clark mewn parc carafanau ym Mhentywyn, Sir Gâr ar 28 Medi.

Cafodd Mr Baxter, 52, ei arestio ddydd Sadwrn yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.

Mae pedwar person eisoes wedi cael eu cyhuddo fel rhan o'r ymchwiliad i'r llofruddiaeth.

Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Roedd Simon Clark yn byw ym Mhentywyn

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones: "Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth wrth i ni ddod o hyd i Baxter.

"Rydw i'n falch ei fod bellach yn y ddalfa a bod y chwilio ar ben. Rydym yn parhau i gydymdeimlo gyda theulu Simon Clark."

Mae Jeffrey Ward, 40 o Bentywyn, eisoes wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Mr Clark.

Mae tri pherson arall wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr i lofruddio - Linda Rowley, 52 o Bentywyn, Kirston Macklin, 52 o Gasnewydd, a Julie Harris, 46 o Donypandy.