Adran Dau: Casnewydd 1-1 Morecambe

Tyler Forbes a Rhys Oates Image copyright Huw Evans Agency

Mae Casnewydd yn parhau yn y pedwerydd safle yn Adran Dau yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Morecambe yn Rodney Parade.

Cafodd yr Alltudion y dechreuad perffaith i'r ornest, wrth i Padraig Amond rwydo yn y munud cyntaf i'w rhoi nhw ar y blaen.

Unionwyd y sgôr 13 munud o'r diwedd gan hen ben Morecambe, yr asgellwr Kevin Ellison.

Y newyddion da i Gasnewydd oedd na wnaeth yr un o'r tri thîm oedd yn uwch na nhw yn y tabl - Lincoln City, MK Dons a Chaerwysg - ennill chwaith.

Pynciau Cysylltiedig