Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-0 Reading

Oli McBurnie Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency

Roedd dwy gôl gan Oliver McBurnie yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Reading yn Stadiwm Liberty.

Daeth y gyntaf drwy gic o'r smotyn ar ôl 38 munud yn dilyn trosedd ar y Cymro Dan James.

Methodd Yakou Meite gyfleoedd i Reading cyn ergyd hwyr gan McBurnie o groesiad James selio'r fuddugoliaeth.

Roedd yn golygu na chafodd rheolwr Reading, Paul Clement brynhawn i'w chofio wrth iddo ddychwelyd i Stadiwm Liberty am y tro cyntaf ers cael ei ddiswyddo gan Abertawe.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Elyrch i'r seithfed safle, dau bwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.

Pynciau Cysylltiedig