Yr Uwch Gynghrair: Lerpwl 4-1 Caerdydd

mo salah Image copyright Rex Features
Image caption Mo Salah roddodd Lerpwl ar ben ffordd

Roedd Lerpwl llawer yn rhy gryf i Gaerdydd wrth i dîm Neil Warnock ddychwelyd yn waglaw o'u trip i Anfield brynhawn Sadwrn.

Daeth gôl gyntaf y Cochion wedi 10 munud wrth i Mohamed Salah fanteisio ar bêl rydd yn y cwrt cosbi.

Bu bron i Adam Lallana ddyblu mantais Lerpwl eiliadau cyn yr egwyl, ond cafodd ei beniad ei rwystro ar y llinell gan gapten Caerdydd, Sean Morrison.

Roedd yr Adar Gleision yn meddwl eu bod nhw wedi unioni'r sgôr ar ddechrau'r ail hanner, ond roedd Morrison yn camsefyll wrth iddo benio i lwybr Callum Paterson.

Daeth ail gôl Lerpwl ar ôl 66 munud wrth i Sadio Mane ganfod cefn y rhwyd, cyn i gôl gan Paterson roi gobaith i Gaerdydd.

Ond sicrhawyd y fuddugoliaeth yn y munudau olaf gydag ergyd gan Xherdan Shaqiri ac yna ail i Mane.

Mae'r canlyniad yn codi Lerpwl i frig y tabl am y tro, tra bod Caerdydd yn aros yn 17eg.

Pynciau Cysylltiedig