Pro14: Ulster 36-18 Dreigiau

Dreigiau Image copyright Oliver McVeigh
Image caption Doedd ymdrechion Richard Hibbard (gwallt melyn) a'r Dreigiau ddim yn ddigon i rwystro Ulster

Er gwaethaf perfformiad calonogol yn erbyn Ulster, colli oedd hanes y Dreigiau yn y PRO14 eto nos Wener.

Doedd ceisiau gan Huw Taylor a Jarryd Sage ddim yn ddigon i rwystro'r Dreigiau rhag colli - gyda'r tîm cartref yn cipio pwynt bonws yn y broses.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Dreigiau'n parhau ar waelod Adran B gyda'r Southern Kings.

Pynciau Cysylltiedig