Canfod trysorau o'r Oes Efydd a Rhufeinig yng Nghymru

trysorau Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption (O'r chwith uchaf gyda'r cloc): Darnau 'hacksilver' o gyfnod Rhufeinig hwyr, tlws cylchog arian o'r Oesoedd Canol, gwniadur arian o ddiwedd yr Oesoedd Canol, modrwy bys arian gilt o ddiwedd yr Oesoedd Canol

Mae trysorau, rhai yn dyddio nôl bron i 3,000 o flynyddoedd, wedi eu canfod mewn safleoedd yng nghanolbarth a de Cymru.

Ymhlith yr arteffactau sydd wedi'u canfod gan aelodau'r cyhoedd roedd creiriau o'r Oes Efydd ym Mhowys, a cheiniogau Rhufeinig ym Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.

Cafodd eitemau o'r Oesoedd Canol hefyd eu darganfod ar wahanol safleoedd ym Mhowys a Bro Morgannwg.

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru fod darganfyddiad y celciau o'r Oes Efydd, sy'n dyddio nôl i'r 9fed ganrif CC, yn "ganfyddiad o bwys".

Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Cafwyd hyd i'r pum darn arian o gyfnod y Rhufeiniaid gan bum person gwahanol ym Merthyr Tudful ym mis Mai 2017

Roedd un casgliad o'r Oes Efydd gafodd ei ganfod yn Llanfrynach, Powys yn 2016 yn cynnwys offer, arfau ac addurniadau efydd, a rhan o freichled aur.

Y llynedd mewn cymuned arall ym Mhowys - Llanfihangel Cwmdu - cafwyd hyd i weddillion dwy fwyell.

"Rydym yn llawn cyffro wrth gaffael trysorau mor bwysig i Frycheiniog diolch i gymorth Hel Trysor; Hel Straeon a HLF," meddai Nigel Blackmore, Uwch Guradur Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog.

"Gydag Amgueddfa Brycheiniog ar fin ailagor yn adeilad newydd Cyngor Sir Powys, y Gaer yma yn Aberhonddu, bydd gennym leoliad rhagorol i arddangos y canfyddiadau pwysig yma gan ddatgelwyr metel, i bobl yr ardal ac i ymwelwyr."

Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Dywedodd archeolegwyr fod y casgliad o'r Oes Efydd gafodd ei ganfod yn Llanfrynach, Powys yn "gymysgedd anarferol o wrthrychau"

Ymhlith y pum darn arian gafodd eu canfod yn y Faenor, Merthyr Tudful roedd ceiniogau o'r Weriniaeth Rufeinig, gan gynnwys y cynharaf oedd yn dyddio i'r flwyddyn 80 CC ac eraill gafodd eu bathu gan y cadfridog Mark Anthony tua 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Bydd y rheiny nawr yn cael eu harddangos yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.

"Y ceiniogau yw'r canfyddiad cyntaf o Ferthyr Tudful i gael ei ddyfarnu'n drysor, a'r trysor cyntaf i gael ei gaffael gan yr amgueddfa, ac mae hyn yn destun dathlu," meddai Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Mae mwyafrif y 118 o geiniogau efydd gafodd eu canfod ym Mro Morgannwg yn dyddio o hanner cyntaf y 4ydd Ganrif

Cafwyd hyd i gasgliad llawer mwy o geiniogau efydd Rhufeinig yn Llancarfan, Bro Morgannwg - 118 i fod yn union - a hynny yn agos i safle celc tebyg gafodd ei ganfod yn 1957.

Ymhlith y creiriau o'r Oesoedd Canol sydd hefyd wedi'u canfod yn y sir dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae bachyn gwisg arian o'r 16eg ganrif, a modrwy bys arian gilt a gwniadur arian o ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Bydd y gwrthrychau'n cael eu cadw gan Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa'r Bont-faen a'r Ardal, a hynny fel rhan o brosiect Hel Trysor; Hel Straeon, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption (Chwith i'r dde): Bachyn gwisg arian o'r 16eg ganrif, a thlws cylchog arian o'r Oesoedd Canol

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol