Cyhuddo dyn o ymosod ar fachgen 16 oed yng Nghaerdydd

Mae dyn 20 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed gyda bwriad a bod ag arf yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Bydd Raekwon Alexander o Adamsdown yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i Lead Street, Adamsdown am 15:40 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar fachgen ifanc.
Mae bachgen 16 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.