Arestio dyn ar ôl canfod corff dynes yn Sir y Fflint

pen-y-ffordd Image copyright Google
Image caption Cafodd corff y ddynes ei ganfod mewn tŷ ym Mhen-y-ffordd, rhyw ddwy filltir o bentref Mostyn

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i gorff gael ei ganfod mewn tŷ yn Sir y Fflint ddydd Mercher.

Cafodd swyddogion eu galw am tua 10:00 i leoliad ym mhentref Pen-y-ffordd ger Treffynnon, ble cafwyd hyd i gorff dynes.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dyn oedd hefyd yn y tŷ ar y pryd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

"Mae teulu'r ddynes fu farw a chrwner Gogledd Cymru wedi cael gwybod," meddai'r llu mewn datganiad.

"Mae'n gynnar yn yr ymchwiliad ac fe fydd datganiad pellach yn dod yn y man.

"Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."