Cefnogaeth i Eisteddfod Caernarfon 2021
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefnogaeth i Eisteddfod Caernarfon 2021

24 Hydref 2018 Diweddarwyd 22:12 BST

Roedd yna gefnogaeth gref mewn cyfarfod cyhoeddus heno i'r syniad o wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaernarfon yn 2021.

Y gobaith fyddai cynnal y Brifwyl o gwmpas strydoedd y dref, ac efallai'r castell hefyd, yn yr un modd ag y cafodd ardal Bae Caerdydd ei defnyddio eleni.

Bydd y trefnwyr nawr yn edrych ar leoliadau posib cyn trafod y syniad ymhellach gyda swyddogion o'r Eisteddfod.

Adroddiad Sion Tecwyn.