Anghydraddoldeb 'ar gynnydd' yng Nghymru

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Geraint Hopkins o'r comisiwn yn galw am weithredu er mwyn dileu anghydraddoldeb

Mae pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a phlant tlawd Cymru yn disgyn ymhellach y tu ôl i weddill cymdeithas, yn ôl adroddiad.

Rhybuddiodd adroddiad y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb (CHDC) hefyd bod perygl o greu "cymdeithas dwy ffrwd", gan ddweud y gallai "grwpiau penodol gael eu hanghofio yn y siwrne tuag at wlad deg a chyfartal".

Er cydnabyddiaeth bod gwelliannau mewn rhai meysydd ers yr arolwg diwethaf yn 2015, mae adroddiad yn galw am weithredu brys.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw "wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chreu Cymru tecach i bawb".

Cwymp mewn safonau byw

Yn ôl adroddiad 'A yw Cymru'n decach?', tlodi yw'r anghydraddoldeb mwyaf treiddiol yng Nghymru.

Mae'n ychwanegu bod newidiadau i'r system les wedi cael effaith ddofn ar Gymru, a bod digartrefedd yn parhau i gynyddu.

Mae'r ffactorau hyn wedi arwain at gwymp mewn safonau byw yn gyffredinol, meddai'r CHDC.

Beth sydd wedi newid ers 2015?

Mae cynnydd wedi bod mewn cyflogaeth a lleihad yn y bwlch yng nghanlyniadau addysg rhai grwpiau ethnig.

Er hynny, dim ond un o bob pump o'r gymuned sipsi a theithwyr sy'n cael pump TGAU.

Mae chwarter o holl oedolion a thraean o blant bellach yn byw mewn tlodi.

Mae mwy o bobl anabl sy'n methu byw yn annibynnol.

Roedd cynnydd o 57% mewn troseddau casineb rhwng 2013/14 a 2016/17.

Mae Cymru'n waeth na gweddill y DU, gyda chyflogaeth yn is na Lloegr a'r Alban.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n parhau i weithio yn agos gyda Chomisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Cymru, yn enwedig er mwyn sicrhau nad yw'r grwpiau sydd dan fwyaf o anfantais yn disgyn ymhellach ar ei hol hi."

"Byddwn yn bendant yn ystyried darganfyddiadau'r adroddiad yn ofalus ac yn ymateb gyda'n hawgrymiadau wedi hynny."

Straeon perthnasol