Aaron Ramsey hefyd yn methu gêm Cymru yn Iwerddon

Aaron Ramsey Image copyright Getty Images

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Aaron Ramsey ar gael i herio Gweriniaeth Iwerddon nos Fawrth.

Mae Ramsey wedi tynnu 'nôl o'r garfan am resymau teuluol, gyda chwaraewr canol cae Abertawe, Daniel James, yn cael ei alw yn ei le.

Daw wedi cadarnhad na fydd Gareth Bale yn holliach ar gyfer y gêm chwaith.

Roedd eisoes ansicrwydd am ffitrwydd Bale wedi iddo fethu'r golled i Sbaen oherwydd anaf, ac mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi cadarnhau ei fod o bellach wedi dychwelyd i'w glwb ym Madrid.

Bydd rhaid i Giggs ymdopi heb Ethan Ampadu a Chris Mepham hefyd, ar ôl i'r ddau ddioddef anafiadau yn gynharach yn yr wythnos.

Cafodd chwaraewr canol cae Ipswich, Gwion Edwards, ac amddiffynnwr Sheffield United, Kieron Freeman, eu galw i'r garfan yn eu lle.

Bydd Cymru yn wynebu'r Weriniaeth yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Stadiwm Aviva, Dulyn, am 19:45 nos Fawrth.

Straeon perthnasol