Denzil

Gallasai hanes Cymru wedi bod yn wahanol iawn pe bai'r blaid Lafur leol wedi dewis Denzil Davies yn hytrach na Davies arall, Gwilym Prys fel ymgeisydd ar gyfer isetholiad Caerfyrddin yn ôl yn 1966.

Roedd y ddau yn gyfreithwyr llachar eu medr ac yn ddynion didwyll a hoffus. Yn anffodus, roedd rhywbeth ynghylch Gwilym, swildod mwy na thebyg, oedd yn golygu ei fod e'n berfformiwr gwael ar stepen ddrws.

Doedd e ddim yn ddyn trahaus o gwbl ond roedd modd ei bortreadu felly.

Roedd Denzil ar y llaw arall yn gysurus ym mhob cwmni, yn teimlo'n gartrefol yn y clwb a'r capel, yng nghoridorau grym a'r siop gornel.

A fyddai Denzil wedi curo Gwynfor? Mae'n amhosib gwybod ond roedd llawer yn credu hynny ar y pryd.

Ta beth, cafodd Denzil ei gyfle bedair blynedd yn ddiweddarach gan drechu'r arwr rygbi lleol, Carwyn James, i olynu Jim Griffiths fel aelod Llanelli.

I ddechrau roedd ei yrfa seneddol yr un mor ddisglair â'i rai academaidd a chyfreithiol. Roedd e'n weinidog yn y trysorlys yn llywodraeth Jim Callaghan ac mae'n sicr y byddai wedi cyrraedd y cabinet pe na bai gaeaf hir Thatcheriaeth wedi rhewi Llafur allan o Downing Street.

Roedd Denzil yn un o'r gwleidyddion hynny fyddai wedi ffynnu wrth lywodraethu ond oedd yn ffeindio mainc yr wrthblaid yn lle diflas iawn i fod, heb ddigon i ddenu ei ddiddordeb na thanio'i ddychymyg.

Roedd y diflastod hwnnw, mae'n debyg, yn rhannol gyfrifol am y digwyddiad mwyaf rhyfedd yn ei yrfa, ei alwad ffôn hwyr y nos i Chris Moncrieff, golygydd gwleidyddol y Press Association ar y pryd, yn cyhoeddi ei fod wedi ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid wrth i Neil Kinnock droi fel ceiliog y gwynt ynghylch diarfogi niwclear.

Rhoddwyd si ar led gan rai o elynion gwleidyddol Denzil nad oedd e hyd yn oed yn cofio gwneud yr alwad y diwrnod wedyn. Gwadu hynny wnaeth Denzil ar y pryd a byth ers hynny. Rwy'n ei gredu.

Ond doedd 'na ddim dod yn ôl o hynny ac ni chafodd Denzil y lle'r oedd e'n ei lawn haeddu yn llywodraeth Tony Blair.

Yn ystod ei flynyddoedd hir yn y Senedd digwyddodd rhywbeth i Denzil sy'n digwydd i sawl Aelod Seneddol. Fe gwympodd mewn cariad âr lle a'r bywyd seneddol. Y cariad hwnnw oedd yn rhannol gyfrifol, rwy'n meddwl, am ei amheuon ynghylch Ewrop a'r setliad datganoli.

Serch hynny, mae'r rheiny sy'n honni bod Denzil wedi 'gwrthwynebu datganoli' yn gwbwl anghywir.

Do, fe lechodd e'n y cysgodion yn ystod refferendwm 1997 ond fe, ynghyd ag aelod Merthyr, Ted Rowlands, wnaeth sefydlu'r Ymgyrch Dros Gynulliad i Gymru (y Mudiad Senedd i Gymru'n ddiweddarach) yn ystod streic y glowyr.

Mae hynny'n ffaith. Roeddwn i yno.

Y peth gorau y gellir dweud am unrhyw ddyn ar ôl ei dranc yw ei fod wedi bod yn ddyn da ac wedi gwneud ei orau i adael yr hen le yma mewn gwell cyflwr. Gallaf ddweud y ddau beth hynny am Denzil yn gwbwl ddi-flewyn ar dafod.

Nos da, hen gyfaill.