Estyn arbrawf casglu sbwriel i bob rhan o Sir Conwy

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Roedd tua 10,000 o dai yn rhan o'r cynllun prawf

Mae biniau holl gartrefi Sir Conwy'n cael eu gwagio unwaith yn unig bob pedair wythnos o ddydd Llun ymlaen fel rhan o'r ymdrech i annog mwy o ailgylchu.

Dywed Cyngor Conwy bod cynllun peilot ers diwedd 2016 mewn rhannau o'r sir wedi llwyddo, gyda chynnydd o 14% mewn lefelau ailgylchu yn yr ardaloedd hynny, a 31% yn llai o wastraff yn mynd i safle tirlenwi.

Mae'r arbrawf bellach wedi ei ymestyn i weddill y sir.

64% o sbwriel y sir sy'n cael ei ailgylchu ond mae'n nod i gynyddu'r ffigwr i 70% ymhen dwy flynedd.

Roedd tua 10,000 o gartrefi yn rhan o'r cynllun peilot, yn y rhannau o'r sir lle mae gwastraff cyffredinol yn cael ei gasglu ar ddyddiau Llun.

Ffynhonnell y llun, George Clerk
Disgrifiad o’r llun,
Mae trefniadau arbennig i helpu teuluoedd mawr

Roedd yr ardaloedd hynny'n cynnwys Llanfairfechan, Morfa Conwy, Bae Cinmel, Eglwysbach a Betws-yn-Rhos,

Tan yr wythnos hon roedd sbwriel yn cael ei gasglu unwaith bob tair wythnos yn y mannau sy'n cael y gwasanaeth ar ddyddiau eraill yr wythnos waith.

'Ffigyra' rhagorol'

Roedd rhai cynghorwyr wedi gofyn i'r cabinet ohirio gwneud penderfyniad ar y mater ym mis Mawrth nes bod mesurau mewn grym i helpu trigolion ddelio â'r system newydd.

Mae rhai wedi mynegi pryder y byddai'r drefn newydd yn creu trafferthion i deuluoedd mawr, llanast wrth i bobl daflu sbwriel yn anghyfreithlon a phroblemau efo llygod mawr.

Ond yn ôl Alun Jones, swyddog ailgylchu gyda Chyngor Conwy, mae'r awdurdod yn "ffyddiog" bod y cynllun prawf "wedi gweithio'n dda".

"Ma'r ffigyra' yn rhagorol, a d'eud y gwir," meddai. "Mae'n amlwg bod pobol Conwy yn dallt be' sydd angen, a bod angen ailgylchu mwy. 'Da ni'n hapus iawn efo hynny.

Dywedodd bod cyfraddau ailgylchu o fewn ardaloedd y cynllun prawf "wedi cynyddu bron i 14%" a bod maint y sbwriel sy'n cyrraedd safle tirlenwi'r cyngor yn Llanddulas wedi "gostwng 31%, sydd yn ffafriol iawn o ran costa' i'r amgylchedd ac hefyd costa' ariannol" tirlenwi.

Ychwanegodd bod modd i bobl ofyn am ragor o fagiau a bocsys ailgylchu, a bod canllawiau i roi ail fin sbwriel i deuluoedd mawr.