Vaughan Gething yn awgrymu treth gofal am ddim i bobl hŷn

Gofal

Fe allai pobl oedrannus gael gofal am ddim dan dreth newydd sydd ymhlith cynigion un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Mae Vaughan Gething yn dweud y byddai'n cyflwyno Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol pe bai'n olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd fod "heriau anferthol" ynghlwm â darparu gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn - heriau "all ond gwaethygu os nad ydyn ni'n gweithredu".

Fe fyddai'r cynllun yn cael ei redeg gan gynghorau ac "o ddewis" yn cael ei ariannu gan ardoll gofal cymdeithasol, yn ôl ymgyrch Mr Gething.

Mae'r undeb Unison wedi rhybuddio bod system gofal cartref Cymru mewn "argyfwng", gydag ystadegau'n awgrymu bod nifer y cwynion a gafodd eu cofnodi gan arolygwyr wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010.

Adolygiad

Mae cynnig yr Ysgrifennydd Iechyd yn gwneud addewid o ofal ddi-dâl "o'r safon uchaf".

Byddai hawl i bobl hŷn gael "adolygiad safon gofal" i benderfynu lefel y gefnogaeth fyddai'n eu galluogi i fyw eu bywydau yn annibynnol. Byddai'r cynllun yn cynnig gwasanaeth cartref gofal i'r rhai sydd ei angen.

Image caption Mae Vaughan Gething wedi derbyn ei bumed enwebiad i sefyll yn y ras i olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru

Mae'r syniad wedi cael ei awgrymu yng Nghymru yn y gorffennol, ac fe fyddai'n rhaid cael cydsyniad Llywodraeth y DU i'w wireddu.

Fe ddywedodd Mark Drakeford, y ceffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru, ym mis Mawrth ei fod mewn trafodaethau gyda'r Trysorlys ynghylch cyflwyno trefn yswiriant gorfodol yng Nghymru.

Mae Mr Gething hefyd wedi cefnogi cyflwyno treth gofal cymdeithasol, ac mae economegydd blaenllaw, yr Athro Gerry Holtham wedi awgrymu codi treth incwm rhwng 1% a 3% at ariannu gofal i bobl hŷn.

Gofal urddasol

"Mae gyda ni heriau anferthol o ran gofalu am bobl hŷn all ond gwaethygu os nad ydyn ni'n gweithredu," meddai Mr Gething.

"Mae gormod o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i golli eu hannibyniaeth neu eu cartrefi.

"Rydym ni gyd wedi clywed hanesion am ymweliadau sydd ond yn para 15 munud, beth bynnag yr angen."

Ychwanegodd y byddai cynllun Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Cymru yn rhoi diwedd ar sefyllfa sy'n amddifadu pobl rhag cael yr ofal urddasol "y byddai pob un ohonom yn ei ddymuno i'n hunain ac ein hanwyliaid".

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Mr Drakeford bod yntau, "fel y gweinidog cyllid", wedi "sicrhau fod gofal cymdeithasol wedi cael blaenoriaeth yn y gyllideb" a'i fod wedi cymryd camau at "ateb cynaliadwy" o ran ariannu gofal cymdeithasol, gan gynnwys comisiynu ymchwil yr Athro Holtham.

Straeon perthnasol