Dynes ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad Caerdydd

Rover Way Image copyright Google

Mae dynes wedi ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Nghaerdydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Rover Way am tua 19:00 ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod gyrrwr 30 oed yn helpu gyda'r ymchwiliad ar ôl i BMW wrthdaro â Jaguar XF.

Derbyniodd y ddau yrrwr fan anafiadau, ond mae'r ddynes 42 oed bellach yn cael ei thrin yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd.

Mae'r heddlu yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy alw 101.

Pynciau Cysylltiedig