Enwi'r dyn fu farw ar ffordd yr A548 ger Mostyn

An inset of Paul Roberts over a picture of the A548 near Mostyn Image copyright Google/Llun teulu
Image caption Roedd Paul Roberts yn cefnogi Manchester United

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud mai Paul Purnell Roberts, dyn 54 oed o ardal Cyffordd Llandudno, oedd y dyn a gafodd ei ladd ar ffordd yr A548 nos Wener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad, a oedd yn cynnwys Audi, oddeutu 22:00 rhwng Mostyn a Ffynnongroyw.

Roedd Mr Roberts, a fu farw ar safle'r gwrthdrawiad, yn gefnogwr tîm pêl-droed Manchester United.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu eu bod yn caru Paul yn fawr.

Roedd e'n dad, mab, taid, brawd, ewythr a gŵr a fyddai yn eu meddyliau am byth.

Mae plismyn yn apelio am dystion ac yn gofyn i unrhyw un a welodd gerddwr ar y ffordd i gysylltu â nhw.