Pro 14: Zebre 26-24 Gleision

Olly Robinson gyda'r cais agoriadol Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Olly Robinson gyda'r cais agoriadol

Bu'n rhaid i'r Gleision ymdopi â cholled arall o drwch blewyn ar ôl cael eu trechu yn hwyr yn y gêm gan Zebre yn y Stadio Sergio Lanfranchi.

Fe ddechreuodd yr ymwelwyr ar dân gyda thri chais o fewn 11 munud yn rhoi mantais gyfforddus.

Olly Robinson, Kristian Dacey a Gareth Anscombe groesodd y llinell.

Ond fe darodd Zebre yn ôl .

Y maswr Carlo Canna yn croesi cyn yr egwyl, ac yna yr wythwr Johan Meyer a'r eilydd Francois Brummer yn lleihau'r bwlch.

Gyda munud yn weddill croesodd yr eilydd arall Oliviero Fabiani i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws i'r tîm cartref